Mae dau feddyg o dîm canser y pen a’r gwddf Cwm Taf Morgannwg wedi cipio dau o’r pum lle buddugol mewn digwyddiad Cymru gyfan, gyda phrosiect yr un i wella canlyniadau a phrofiad cleifion.
Mae Mouli Doddi, sy’n Feddyg Ymgynghorol y Clust, Trwyn a Gwddf, a John Wells, sy’n Gofrestrydd y Genau a’r Wyneb, yn dathlu buddugoliaeth yn rownd ddiweddaraf Hac Iechyd Cymru. Roedd hwn yn gyfle i weithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol rannu’r heriau sy’n eu hwynebu nhw yn y gwaith a chyflwyno a datblygu datrysiad. Yn y ddau achos, yr heriau oherwydd pandemig COVID-19 oedd y rheswm dros fyfyrio a meddwl yn wahanol. Roedd hyn yn eu galluogi nhw i gyflwyno eu syniadau er mwyn datblygu llwybrau arloesol i ddwyn budd i’w cleifion.
Yn ystod Hac Iechyd Cymru 2020, a hithau yn ei phedwaredd flwyddyn, cyflwynodd 24 o dimau o bob cwr o Gymru, oedd yn cynnwys 130 o bobl a 28 o heriau, eu syniad i’r panel er mwyn cael cyllid i ddechrau eu gwaith. Roedd pum tîm yn llwyddiannus a daeth ein bwrdd iechyd ar flaen y gad gyda chyflwyniadau gan Mr Doddi a Mr Wells.
Roedd cyflwyniad Mr Doddi yn seiliedig ar leihau amseroedd aros yn yr Adran Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a bydd Mr Wells yn datblygu llif gwaith digidol ar gyfer cleifion canser y pen a’r gwddf.
Meddai Dr Doddi: “Oherwydd COVID-19, mae mwy o gleifion nag erioed yn aros am apwyntiad yn yr Adran Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Fy syniad i, o’r enw Consult Smartly, yw llwyfan ymgynghoriadau ar-lein arbennig sy’n gallu manteisio ar gapasiti sydd ddim yn cael ei ddefnyddio. Y prif nod yw clirio’r rhestr aros sy’n bodoli oherwydd y pandemig ac arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd i’r GIG.
“Mae ein llwyddiant yn yr Hac Iechyd yn newyddion anhygoel i’n Bwrdd Iechyd. Mae unrhyw un gyda syniad arloesol yn gallu gwneud cais. Yn wreiddiol, ces i slot un funud o hyd i siarad am y syniad, yna ces i wahoddiad i gyflwyno yn ystod slot tair munud o hyd o flaen Comisiwn Bevan, holl fyrddau iechyd Cymru a phobl o’r diwydiant.”
Yn gwrando ar y cyflwyniad roedd Syml Connect, cwmni meddalwedd o Abertawe. Cytunodd y cwmni i weithio gyda Mr Doddi a bydd y cwmni yn cyflawni’r prosiect o fewn dau fis ar ôl cael y cyllid.
Ychwanegodd Mr Doddi: “Gofal iechyd darbodus yw hwn, a’r prif nod yw datblygu model cynaliadwy a chost effeithiol i glirio rhestr aros yr Adran Clust, Trwyn a Gwddf. Gallwn ni ddefnyddio technoleg i ddefnyddio capasiti sbâr y GIG yn well. Dyma fodel sy’n gallu cael ei fabwysiadu ym mhob Adran Clust, Trwyn a Gwddf yng Nghymru, ac arbed miliynau o bunnoedd.”
Meddai Mr Wells wrth sôn am ei syniad: “Canser y croen yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru ac mae’r rhan fwyaf o achosion yn effeithio ar y wyneb, y pen a’r gwddf. Mae’r tiwmorau hyn a’r creithiau oherwydd triniaeth cleifion yn gallu effeithio’n sylweddol ar ansawdd eu bywyd. Mae’n hawdd mesur y canlyniadau; i’r llawfeddyg, y mesur yw a ydy’r holl diwmor wedi cael ei dynnu, ac i’r claf, y mesur yw effaith y graith ac a oes modd ymdopi â hi.
“Mae gwaith papur yn cymryd amser ac mae’n hawdd gwneud camgymeriadau neu hepgor rhywbeth. Yn ogystal â hynny, dydy hi ddim yn hawdd dadansoddi systemau papur. Rydw i wedi cynnig ein bod ni’n dod â’r cyfan ynghyd i greu un system ddigidol a monitro ein perfformiad ac adborth cleifion yn gyson. Mae pob llawfeddyg yn gwneud pob ymdrech i wella canlyniadau a phrofiad cleifion, felly bydd system o’r fath yn ei gwneud hi’n haws i lawfeddygon fyfyrio ar eu gwaith.”
Yn ogystal â chyllid yr Hac Iechyd, mae cyllid cyfatebol gan Empyrean Digital, cwmni TG o Gymru sy’n datblygu’r prosiect, yn ei gwneud hi’n bosib creu’r llif gwaith digidol. “Mae Greg a’i dîm o Empyrean yn awyddus i gymryd siawns gyda’n syniad a chynnig eu harbenigedd, gan eu bod nhw’n gweld y manteision i’n cleifion,” ychwanegodd Mr Wells.
"Beth sy’n wych am yr Hac Iechyd yw bod pob sefydliad sy’n gysylltiedig â hyn yn cyfrannu rhywbeth at lwyddiant y prosiect. Mae hyn yn troi buddsoddiad gweddol fach gan Lywodraeth Cymru yn gynnyrch fydd yn arwain at well canlyniadau a phrofiad i gleifion, a fyddai hyn ddim yn bosib heb ddod â’r holl gyfraniadau hyn ynghyd.”
Meddai Siôn Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr Comisiwn Bevan: “Ar ôl wynebu cystadleuaeth frwd yn erbyn 24 o dimau eraill, mae Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud yn dda iawn yn Hac Iechyd Cymru eleni, gan gipio dau o’r pum lle uchaf gyda dau enillydd llawn haeddiannol.”
Cafodd yr Hac Iechyd ei chynnal mewn partneriaeth ag AgorIP, Cyflymu, Llywodraeth Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, M-Sparc, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phob bwrdd iechyd yng Nghymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru.