Fis Medi hwn (2021) bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn croesawu 19 o Therapyddion Galwedigaethol newydd i ymuno â'n tîm yn Cwm Taf Morgannwg. Ymwelodd yr 19 Therapydd Galwedigaethol â Chwm Taf Morgannwg yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad 'cwrdd a chyfarch'. Cyfarfu'r recriwtiaid newydd ag aelodau presennol y tîm, cynrychiolwyr undeb ac uwch-reolwyr Therapi Galwedigaethol, a chawson nhw wybodaeth am eu rôl a'r amrywiaeth o gyfleoedd cylchdro sydd ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Paula Cornelius, Prif Therapydd Galwedigaethol: “Mae cynnal digwyddiad cwrdd a chyfarch cyn i’r recriwtiaid newydd ddechrau yn gyfle gwych iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw a chael blas ar yr amgylchedd y byddan nhw'n gweithio ynddo. Mae'n gyffrous iawn i ni mewn Therapi Galwedigaethol gael recriwtiaid newydd gan y bydd tîm mwy yn caniatáu i ni ehangu ein gwasanaethau craidd a rhoi mwy o gyfle i ni dreialu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio yn y gymuned ”.