Mae llythyrau apwyntiad ar gyfer yr ail ddos o’r brechlyn rhag COVID-19 bellach yn cyrraedd cartrefi ledled Cwm Taf Morgannwg.
Pan fydd chwe Chanolfan Frechu Gymunedol y Bwrdd Iechyd yn agor ar Fawrth 1, byddan nhw’n dechrau rhoi’r ail ddos i staff iechyd a gofal cymdeithasol ac i bobl rhwng 70 i 74 oed.
I’r rhan fwyaf o bobl, bydd yr ail apwyntiad yn gynharach nag unrhyw ddyddiad a gawson nhw o’r blaen, ac felly dylech chi ddilyn y dyddiad, yr amser a’r lleoliad newydd.
Mae hefyd yn bosibl y byddwch chi’n mynd i ganolfan frechu gymunedol newydd y tro hwn oherwydd bod un wedi agor yn agosach atoch chi, neu oherwydd i chi gael eich dos gyntaf yng Nghanolfan Frechu Gymunedol Abercynon, sydd bellach wedi cau.
Fe fydd y chwe Chanolfan Frechu Gymunedol yng Nghwm Taf Morgannwg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Llantrisant, Ystrad, Aberpennar a Merthyr Tudful. Bydd y seithfed yn agor yn Aberfan ddiwedd Mawrth.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn atgoffa pobl i ddod â’u llythyr apwyntiad gyda nhw, ynghyd â’u cerdyn brechiad a phrawf o bwy ydyn nhw. Mae’n hanfodol eich bod yn dod â ffurf dderbyniol o brawf gyda chi i brofi pwy ydych chi.
Os na fydd modd i chi ddod i’ch apwyntiad, yna cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd trwy ffonio’r rhif sydd wedi ei nodi ar y llythyr i ad-drefnu, fel bod modd i ni roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae hyn hefyd yn berthnasol os na allwch chi gyrraedd Canolfan Frechu Gymunedol.
Pan fydd y canolfannau wedi gorffen y gwaith o roi’r ail ddos, byddan nhw’n dechrau gwahodd grwpiau blaenoriaeth 7, 8 a 9 i gael y ddos gyntaf.
Mae meddygon teulu yn cysylltu â grwpiau 5 a 6 er mwyn i’r grwpiau hyn gael y brechlyn yn eu meddygfa eu hun. Does dim angen i chi gysylltu â’ch meddyg teulu, gan fod meddygfeydd yn gweithio trwy eu rhestr o gleifion mor gyflym a diogel ag y gallan nhw, ac fe fyddan nhw’n cysylltu â chi maes o law.
Mae staff rheng flaen y Bwrdd Iechyd yn derbyn yr ail ddos yng nghanolfannau brechu ysbytai, ac mae timau brechu symudol y Bwrdd Iechyd yn ailymweld â chartrefi i oedolion hŷn ledled Cwm Taf Morgannwg, er mwyn rhoi’r ail ddos i breswylwyr a staff.