Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP CTM yn gweld nifer o lwyddiannau yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2024

Cipiodd BIP Cwm Taf Moragannwg a’i gontractwyr fferylliaeth gymunedol annibynnol nifer o wobrau yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2024.

Nod Gwobrau Fferylliaeth Cymru, a gynhelir ym mis Medi, yw cydnabod a dathlu ymroddiad a gwaith rhyfeddol fferyllwyr o ddisgyblaethau amrywiol.

Enillodd Sam Fisher o CTM y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig a chafodd ei dewis gan Fwrdd y Gymdeithas Fferylliaeth Frenhinol.

Cyrhaeddodd ein Tîm Rheoli Meddyginiaethau Gofal Sylfaenol y rhestr fer ddwywaith ar gyfer y Wobr Cynaliadwyedd mewn Gofal Iechyd, am eu gwaith ar bresgripsiynu ONS, a’u gwaith anadlol ar ddad-bresgripsiynu a lleihau ôl troed carbon.

Cyrhaeddodd y tîm Fferylliaeth Gymunedol restr fer Tîm Gofal Sylfaenol y Flwyddyn am ddatblygu Rhwydwaith Cyfoedion Fferyllydd-Ragnodydd Annibynnol.

Ar y cyd â BIP Caerdydd a’r Fro, roedd tîm Fferylliaeth Gymunedol BIP CTM hefyd ar y rhestr fer yn y Categori Dibyniaeth Sylweddau ar gyfer ein peilot ar y cyd i gyflenwi timau fferylliaeth gymunedol â chitiau profi iechyd rhywiol ac adnoddau cysylltiedig, ochr yn ochr â’n gwasanaeth feirysau a gludir yn y gwaed (BBV).

Roedd nifer o fuddugoliaethau hefyd i’n contractwyr fferylliaeth gymunedol annibynnol o fewn CTM.

Enillodd Anna Matthews a Fferyllfa Nanty Wobr Fferyllfa Gymunedol Annibynnol y Flwyddyn a'r Wobr Arloesedd wrth Ddarparu Gwasanaethau.

Enillodd Gareth Hughes a Fferyllfa Tynewydd Wobr Datblygiad Busnes y Flwyddyn.

Enillodd technegydd Fferyllfa Tynewydd, Emma Williams, wobr Technegydd Fferyllfa y Flwyddyn.

Enillodd Fferyllfa Avicenna Aberaman y Categori Rheoli Dibyniaeth Sylweddau.

Dywedodd Hannah Wilton, Prif Fferyllydd BIP CTM: “Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o’n timau fferylliaeth, cydweithwyr a chontractwyr fferylliaeth gymunedol annibynnol ar y rhestr fer ac yn ennill yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru 2024. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff fferylliaeth CTM a’n sefydliadau partner, ac rydym yn hynod falch ohonyn nhw i gyd.”

11/12/2024