Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP CTM yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr 2024

Heddiw (dydd Iau 5 Rhagfyr) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr (IVD). Cafodd y diwrnod hwn ei dynodi gan y Cenhedloedd Unedig yn 1985 i ddathlu pŵer a photensial gwirfoddoli.

Mae gwirfoddolwyr yn rhan annatod o'n sefydliad. Maen nhw’n darparu buddion sydd uwchlaw a thu hwnt i'r rhai a gyflenwir gan wasanaethau statudol, ac maen nhw’n helpu i wella ansawdd bywydau pobl.

Hoffem ddiolch i bob un o'n gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn rolau gwahanol gyda nifer o dimau, ar draws ein safleoedd, gan gynnwys gwirfoddolwyr ysbyty, gwirfoddolwyr therapi gardd, gwirfoddolwyr uned diwrnod gofal lliniarol, gwirfoddolwyr Caplaniaeth, gwirfoddolwyr cydymaith diwedd oes, a gwirfoddolwyr cymorth i deuluoedd rhoi organau.

Dywedodd Sarah Morgan-Jones, Rheolwr Gwasanaeth Gwirfoddoli CTM: "Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr trwy wella profiad cleifion ac ategu gwaith ein staff. Mae eu hymroddiad, eu gofal a'u hymrwymiad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan CTM, ein cleifion, staff a'r gymuned ehangach. Hoffwn ddiolch i chi am bopeth maen nhw'n ei wneud."

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau gwirfoddol, gan gynnwys:

  • Gwirfoddolwyr gofal ysbrydol
  • Gwirfoddolwyr Cwrdd â Chyfarch
  • Gwirfoddolwyr Adborth Cleifion
  • Gwirfoddolwyr gweithgareddau a chyfeillachwr ward
  • Gwirfoddolwyr yr Adran Argyfwng
  • Gwirfoddolwyr ward geni

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda BIP CTM gallwch ddarganfod mwy yma: https://bipctm.gig.cymru/swyddi/gwirfoddoli-i-ni/

Neu gallwch gysylltu â'n Gwasanaeth Gwirfoddoli yma:

E-bost: CTUHB_Volunteering@wales.nhs.uk
Ffôn: 01656 753783

05/12/2024