Heddiw (Medi 29), rydym yn gweld y Kickstarter olaf yn gorffen eu lleoliadau yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'r cynllun wedi cael ei gynnal yn CTM ers mis Rhagfyr 2021, ac wedi gweld pump ar hugain o bobl ifanc yn cael eu gosod ar draws y Bwrdd Iechyd ar leoliadau gwaith chwe mis. Mae'r lleoliadau wedi bod ar draws pob agwedd o'n gwasanaethau, gan gynnwys cadw tŷ, arlwyo, TG, diogelwch cleifion, adrannau brys, gweithlu a mwy.
Trwy gydol eu hamser gyda ni mae'r Kickstarters wedi cael y cyfle i gwblhau dau gymhwyster mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd. Buom hefyd yn cynnal digwyddiad graddio i ddathlu llwyddiannau ein Kickstarters, gyda'u teulu a'u ffrindiau yn bresennol.
Rydym mor gyffrous i ddweud bod un ar ddeg o'n Kickstarters wedi cael gwaith gyda CTM ac rydym bellach yn rhan o'n gweithlu.
Dechreuodd Adrienne Davies ar gynllun Kickstart mewn Cardioleg ac AMU yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Ers hynny mae hi wedi cael gwaith parhaol gyda ni mewn rôl ddeuol fel Cardiology Heart Failure Nurse Admin Support a Gastroenterology Clerk Typist.
Meddai Adrienne, "Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod yn dal i fod yn gweithio o fewn y Bwrdd Iechyd - rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael llawer o brofiad a safle parhaol yma yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Rwy'n dal i ddysgu a datblygu bob dydd yn fy rôl newydd ac rwy'n ddiolchgar fy mod wedi fy amgylchynu gan unigolion sydd bob amser yn barod i'm helpu gyda'm dysgu a'm twf o fewn yr adran.
Dechreuodd Tilly Marshall-Elson ar gynllun Kickstart fel cynorthwyydd gweinyddol yn 'The Change Hub'. Ers hynny mae wedi cael gwaith fel swyddog cymorth gweinyddol mewn Gofal Iechyd sy'n seiliedig ar Werthoedd.
Dywedodd Tilly: "Rydw i mor hapus fy mod yn cael parhau i weithio yn y GIG a symud ymlaen gyda fy ngyrfa o fewn y Bwrdd Iechyd. Rwy'n gweithio ar wella fy sgiliau er mwyn gallu cyrraedd fy mhotensial gyrfa lawn."
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dymuno pob lwc i'r holl Kickstarters yn eu hymdrechion yn y dyfodol.