Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 28 Ionawr 2021 am 10: 00 am.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymrwymedig i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae’n gwneud cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiynau y gall y cyhoedd ddod iddynt ac arsylwi fel arfer. Fodd bynnag, yn sgil y cyngor cyfredol am y Coronafeirws (COVID-19), penderfynwyd ym mis Mawrth 2020 beidio ag ymgynnull neu ymgasglu mewn grwpiau ar gyfer cyfarfodydd er diogelwch y cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal ein cyfarfodydd o’r Bwrdd ar-lein ar ‘Teams’, gan gyhoeddi ein papurau ymlaen llaw a darparu briff gan y Bwrdd oriau ar ôl ein cyfarfodydd er mwyn rhoi’r diweddaraf i’r cyhoedd ynglŷn â’r materion a drafodir.
Mae’n braf gennym gyhoeddi y byddwn yn darlledu ein cyfarfod ar 28 Ionawr 2021 er mwyn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd arsylwi. Gweler isod y ddolen i’r cyfarfod a byddwn yn ei rhannu hefyd ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol:
Dolen i’r digwyddiad bywyma
Fel mynychwyr, cewch arsylwi'r cyfarfod ar Microsoft Teams ar ddangosfwrdd (Windows neu Mac), ar y we neu ar ddyfais symudol. Os nad oes Microsoft Teams gennych, gallwch ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Nid yw’n gweithio ar Safari ar hyn o bryd.
Mae papurau’r Bwrdd hefyd ar gael yma