Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i ofalu am y rhai sydd angen gofal fwyaf.

Wrth i ni fynd i mewn i wythnos newydd, mae ein hysbytai yn parhau i fod yn brysur iawn. Yn ogystal, rydym yn rheoli effeithiau’r tywydd garw, gwlyb ar Ysbyty Tywysoges Cymru sy’n achosi rhywfaint o aflonyddwch ar y safle hwn.

Rydym yn gofyn am eich help fel y gall ein staff barhau i drin a gofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf.

  • Yn hytrach nag ymweld â'ch Adran Argyfwng lleol, edrychwch ar ein gwefan am gyfarwyddiadau i wasanaethau cyfagos eraill a all helpu gyda'r rhan fwyaf o faterion iechyd - gan gynnwys yr Uned Mân Anafiadau, meddygon teulu, fferyllfeydd, ac arbenigwyr eraill: https://bipctm.gig.cymru/cyngor-i-gleifion/gwasanaethau-iechyd-lleol-y-gig/
  • Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru i gael cyngor ar ble i fynd ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys: https://111.wales.nhs.uk/?locale=cy&term=A
  • Os ydych chi neu anwylyd yn profi aflonyddwch i wasanaethau, byddwch yn amyneddgar gyda ni. Mae ein staff yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod cleifion yn ddiogel ac yn derbyn gofal da.
  • Os yw aelod o'r teulu ar fin cael ei ryddhau o'r ysbyty, gwnewch beth allwch i'w helpu i ddychwelyd adref fel y gall barhau â'i adferiad yn y lle gorau posibl. Siaradwch â'r ward am sut y gallwch chi helpu.
  • Os ydych wedi colli gwaed yn ddifrifol neu wedi dioddef trawma mawr, ffoniwch 999 neu ewch i adran frys ar unwaith.