Yn ystod Gorffennaf 2021, mae'r Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol (IMSOP) yn cynnal arolwg i ddeall profiadau menywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
Mae hyn yn rhan o'r gwaith gwella parhaus yr ydym yn cefnogi'r Bwrdd Iechyd ag ef.
Rydym nawr yn canolbwyntio’n fanylach ar wasanaethau newyddenedigol y Bwrdd Iechyd (gofal babanod arbenigol), ac rydym yn arbennig eisiau clywed gan deuluoedd sydd â phrofiad o’r gwasanaeth hwn.
Gobeithiwn glywed gan nifer o bobl i ddeall gwahanol brofiadau menywod, partneriaid ac aelodau ehangach o'r teulu am y gofal a roddir gan wasanaethau newyddenedigol. Bydd hyn yn helpu'r Bwrdd Iechyd i wella'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn barhaus.
Mae'r arolwg yn gofyn am adborth am:
Efallai bod rhai teuluoedd wedi cael profiad gwael ac rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod yn anodd dweud wrthym am hyn. Yn yr achosion hyn, mae'r adborth hyd yn oed yn fwy hanfodol i'n helpu i gefnogi'r Bwrdd Iechyd i wneud unrhyw welliannau angenrheidiol.
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Bwrdd Iechyd ond mae'n gwbl annibynnol arnynt a bydd yr holl wybodaeth yn cael ei dychwelyd i IMSOP yn unig. Bydd popeth a ddywedir wrthym yn gwbl gyfrinachol.
Credwn fod geiriau teuluoedd yn bwerus wrth ddal yr hyn sy'n dda neu y gellid ei wella mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Felly, gallwn ddefnyddio dyfynbrisiau yn ddienw. Disgwyliwn gyhoeddi adroddiad am ein canfyddiadau yn ddiweddarach eleni.
Mae'r arolwg ar gael yma https://forms.office.com/r/sMxjB4Fe81 ond os byddai'n well gennych gopi printiedig, cysylltwch â'n blwch post yn: OversightPanelMaternity@gov.wales .
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi croesawu'r cam nesaf hwn, sy'n ddilyniant naturiol o'r gwaith y mae ein Panel Annibynnol wedi bod yn ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi taith gwella gwasanaeth mamolaeth a newyddenedigol y Bwrdd Iechyd.