Mae Nyrs Arbenigol Dementia Iechyd Meddwl CTM, Catherine Lowery, wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Prif Swyddog Nyrsio am ei gwaith rhagorol yng Ngharchar y Parc.
Cath yw'r nyrs dementia arbenigol gyntaf yn y carchar a dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn y carchar i unigolion sy'n byw gyda dementia. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o weithredu Amgylchedd/Adain Dementia Gyfeillgar - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae Cath hefyd wedi cefnogi staff carchardai gyda hyfforddiant ac addysg o amgylch gofal dementia ac mae wedi gweithredu fideos hyfforddi dementia sy'n edrych ar ymddygiadau sy'n herio ac yn ymdrin â gofalu am yr unigolion hyn.
Dywedodd Ana Llewellyn, Cyfarwyddwr Nyrsio CTM ar gyfer Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddyliol: "Rydym yn eithriadol o falch o Cath. Mae hi wedi dangos sgiliau arwain a phartneriaeth ers i ddarpariaeth gofal iechyd HMP Parc drosglwyddo i’r bwrdd iechyd y blwyddyn diwethaf. Mae hi wedi ymrwymo’n fawr i ddarparu gofal rhagorol i’r boblogaeth fregus hon.”
Mae Cath yn enghraifft ddisglair o nyrs dosturiol, caredig a dewr yn ogystal â bod yn hynod wydn, gweithgar ac ymroddedig i wella’r canlyniadau i’n poblogaeth a thrin pob unigolyn yr un fath.
19/10/2023