Mae sesiynau ysgrifennu creadigol a chelf wedi bod yn helpu cleifion a’r staff i wella eu lles, drwy roi cyfle iddyn nhw adrodd eu hanesion a rhannu eu profiadau.
Mae nyrsys tramor sy’n gweithio ledled ardal Cwm Taf Morgannwg a chleifion yn Ysbyty’r Seren ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi elwa ar weithdai dan arweiniad yr artist Sue Hunt a’r hwylusydd ysgrifennu creadigol Uschi Turoczy. Cynhaliwyd y sesiynau cydweithredol cyntaf cyn i’r cyfnod clo presennol ddechrau.
Mae’r sesiynau creadigol wedi cael eu dylunio i roi seibiant i’r staff rhag straen eu gwaith ac i helpu cleifion i wella ar ôl cael COVID-19. Dywedodd cleifion a’r staff fod y gweithdai’n ysbrydoledig ac yn llawn hwyl, a dywedodd un claf fod y gweithdai wedi ei alluogi i wneud pethau doedd e ddim yn gwybod ei fod yn gallu eu gwneud.
Mae’r nyrsys ymhlith 146 o gydweithwyr sydd wedi ymuno â Chwm Taf Morgannwg o dramor dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf o India, ac wedi dechrau yn eu rolau newydd ledled ardal y Bwrdd Iechyd ar ôl cyfnod dan gwarantin. Maen nhw’n cael cymorth bugeiliol i’w helpu nhw i addasu i fywyd mewn gwlad newydd, ac roedd y gweithdy wedi eu helpu nhw i fynegi eu hemosiynau ar ôl eu taith i Gymru, oedd yn cynnwys gadael eu teuluoedd, gan gynnwys plant.
Meddai Sue: “Roedd hi’n braf cynnal y gweithdai ac roedd hi’n bleser mawr gweithio gyda’r nyrsys a chlywed eu hanesion unigol. Byddwn i ac Uschi wrth ein bodd yn cynnal rhagor o sesiynau pan fyddwn ni’n gallu.
“Roedd y syniad yn seiliedig ar gerdd am daith. Rhoeon ni gyfle i’r nyrsys ysgrifennu eu fersiwn eu hunain, o’u safbwynt nhw, ac roedd cryn barch at y cwmnigarwch wrth iddyn nhw rannu eu hanesion. Darparom ni bapur a deunyddiau celf a chyfansoddon nhw ddarnau unigol allai ddod ynghyd i greu un darn mawr."
Roedd rhai o’r darnau’n hynod o drawiadol, ac roedd eraill yn ddoniol iawn. Ychwanegodd Sue: “Y nod oedd rhoi ‘moment’ i’r staff o dramor fyfyrio, y tu hwnt i’w gwaith wyneb yn wyneb, mor fuan ar ôl cyrraedd y DU ac ar ôl hunan-ynysu. Mae eu profiad, ynghyd â phrofiad yr holl aelodau staff nyrsio ledled y Bwrdd Iechyd, wedi bod yn heriol, a’n nod ni yw rhoi hafan i’r staff yn ystod y cyfnod hwn sy’n peri mwy a mwy o straen.”
Yn ystod sesiwn i gleifion, gofynnodd un claf 93 oed am wers tynnu lluniau mewn persbectif a gofynnodd iddo gael cadw diagram gan Sue er mwyn ei drysori ac er mwyn cofio’r sesiwn. Dywedodd claf arall fod cymryd rhan yn y gweithgareddau tynnu lluniau ac ysgrifennu’n brofiad ffres a diddorol.
Yn ogystal â hynny, cafodd y staff iechyd oedd yn helpu’r cleifion yn y gweithdai gyfle i ymuno. Cymeron nhw ran mewn gweithgaredd lle roedd gofyn i bawb ysgrifennu negeseuon o gymorth a gobaith i’w cydweithwyr ar fasgiau. Cadwodd rhai o’r staff eu masgiau a chafodd rhai o’r masgiau eu harddangos mewn cypyrddau gwydr yng nghyntedd yr ysbyty.
Roedd rhaid cadw at fesurau hylendid llym yn ystod y sesiynau i’r staff a chleifion, a chafodd y deunyddiau eu diheintio’n rheolaidd a’u glanhau cyn pob gweithdy. Rydyn ni’n gobeithio cynnal rhagor o weithgareddau eto cyn gynted ag y bydd hynny’n ddiogel.