Mae gosodwaith celf newydd pwerus wedi'i ddadorchuddio yn Ysbyty'r Tywysog Siarl i gydnabod rhoddwyr organau a'u teuluoedd, ac i ysbrydoli mwy o bobl ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) i gofrestru eu penderfyniad i roi organau.
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg a Chronfa Rhoi Organau De Cymru, cafodd y dyluniad wedi'i ysbrydoli gan gennin Pedr ei greu a’i gosod gan Hospital Art Studio, a dyma'r gwaith celf cyntaf i gydnabod rhoddwyr yn y rhanbarth.
Mae'r gosodwaith, a fydd yn croesawu cleifion, ymwelwyr a staff yn y brif Adran Cleifion Allanol, yn symbol o gofio, gobaith ac adnewyddiad. Mae dyluniad cennin Pedr y gwaith celf yn tynnu ar flodyn cenedlaethol Cymru i gynrychioli effaith rhoi organau sy'n newid bywydau.
Wedi'i osod ddechrau mis Awst, mae'r darn yn cyfuno ffurfiau naturiol a lliw bywiog ac yn cynnwys cod QR sy'n cysylltu'n uniongyrchol â Chofrestr Rhoddwyr Organau swyddogol y GIG. Ei nod yw nid yn unig coffáu cleifion sydd wedi rhoi organau, ond hefyd yn annog pobl sy'n byw yn rhanbarth CTM i gael sgyrsiau gydag anwyliaid am roi organau.
Dywedodd yr artist Harry van de Bospoort o Hospital Art Studio: “Rydym mor falch o fod wedi creu’r darn hwn ochr yn ochr â’r timau rhoi organau ac elusen. Roedden ni eisiau creu rhywbeth sy'n teimlo'n fyw gydag ystyr ac yn gwahodd myfyrdod tawel. Mae cennin Pedr yn blodeuo ar ôl y gaeaf ac yn symbol o'r gwanwyn, gan eu gwneud yn drosiad pwerus am yr adnewyddiad a'r ail gyfleoedd sy'n bosibl trwy roi organau. Ein nod oedd creu lle lle gall ymwelwyr, cleifion a staff deimlo eu bod wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth y rhai sydd wedi rhoi rhodd bywyd.”
Rhannodd Corinna McNeil a Victoria Hughes, Nyrsys Arbenigol mewn Rhoi Organau yn BIP CTM, eu diolchgarwch. Dywedodd Corinna: “Mae Harry a’i dîm wedi gwneud gwaith anhygoel, ac mae’r gwaith celf yn fwy prydferth nag y gallem fod wedi’i ddychmygu. Bydd y gosodwaith hwn yn deyrnged o’r galon i bob rhoddwr organau yng Nghwm Taf Morgannwg a’u teulu. Bydd yn sefyll fel neges barhaol o ddiolch, tosturi, ac o'r etifeddiaeth anhygoel y mae'r rhoddion hyn yn ei gadael ar ôl.”
Dywedodd Abe Sampson, Pennaeth Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n fraint i’n helusen gefnogi prosiectau fel hyn, sydd nid yn unig yn gwella amgylcheddau ein hysbytai, ond hefyd yn sbarduno sgyrsiau ystyrlon sy’n achub bywydau. Gyda nifer uchel o ymwelwyr yn yr Adran Cleifion Allanol a'r lleoedd aros cyfagos, mae'r gwaith celf yn cynnig cyfle unigryw i gyrraedd cleifion a theuluoedd nad ydyn nhw efallai erioed wedi ystyried rhoi organau fel rhan o'u penderfyniadau cynllunio gofal diwedd oes. Bydd hefyd yn atgof pwerus o effaith gadarnhaol rhoi organau, a sut mae'n achub bywydau yn ein cymunedau lleol.”
Gallwch ddysgu mwy am Roi Organau drwy glicio yma.
Mae Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg yn cefnogi staff a chleifion y GIG ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf drwy ddarparu cymorth y tu hwnt i beth gall y GIG ei ddarparu. Gallwch gael gwybod mwy drwy glicio yma.
Os hoffech drafod prosiect tebyg neu ddysgu mwy am gefnogi'r Elusen, gallwch gysylltu â thîm yr Elusen yn: ctm.charity@wales.nhs.uk.
08/08/2025