Mae’r tîm aeth y tu hwnt i alwad dyletswydd i sicrhau bod gan staff rheng flaen ein Bwrdd Iechyd PPE trwy gydol y pandemig wedi ennill gwobr uchel ei bri.
Mae Tîm Caffael BIP Cwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr GO Wales ar gyfer ‘Tîm y Flwyddyn’ ar ôl gweithio’n ddiflino, a hynny ar y penwythnos a gyda’r nos, er mwyn sicrhau diogelwch i gleifion a staff.
Cyhoeddwyd y tîm buddugol mewn digwyddiad ar lein gyda Sian Lloyd yn cyflwyno. Roedd Gwobrau Go ‘Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus’ 2020/21 yn cynnwys y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Dywedodd Pennaeth Caffael Masnachol, Esther Price: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod fel Tîm y Flwyddyn am ein hymateb i Covid-19 wrth gefnogi BIP Cwm Taf Morgannwg.
“Mae'n golygu cymaint i gael ein cydnabod am yr arweinyddiaeth ar y cyd, yr ymrwymiad, y gwytnwch a'r gefnogaeth a ddangoson ni i'n gilydd trwy gyfnod mwyaf heriol ein gyrfaoedd hyd yma, gan weithio mor galed i sicrhau na wnaethom ni siomi ein staff a'n cleifion - tra, ar brydiau, yn wynebu'r niferoedd Covid-19 uchaf yng Nghymru.
“Mae'r wobr hon yn dangos cydweithio a gwaith tîm go iawn. Fe wnaethon ni ddangos ein bod ni'n deall ein gilydd ac yn gwybod lle mae ein cryfderau, gan dynnu ynghyd wrth weithio’n gyflym ac ynghanol pryderon am y cyflenwad. ”
Mae Esther - a oedd ei hun yn sâl iawn gyda Covid-19 ar ddechrau'r pandemig - yn cyfaddef y bu 'rhai achosion o ddod o fewn trwch blewyn' o ran sicrhau cyflenwadau digonol o PPE. “Ar un adeg, doedd ond digon o stoc am un diwrnod yn unig,” meddai.
“Roeddem ni’n gweithio bob awr ac ar benwythnosau, ond y peth pwysicaf oedd sicrhau nad oedd cleifion a staff yn mynd heb beth oedd ei angen arnyn nhw. Roedd yn teimlo fel petasen ni’n ceisio hedfan awyren wrth roi'r awyren at ei gilydd ar yr un pryd. Rydych chi'n dod o hyd i gryfder a gwytnwch mewnol oherwydd dydych chi ddim am siomi pobl.
“Pan oedd yn rhaid i fi gymryd 10 diwrnod i ffwrdd gyda Covid-19, camodd fy nirprwy, AnnMarie Pritchard, i’r adwy i lywio’r tîm. Cymerodd Nicola King gyda Vince Espley yr awenau dros gyflenwad PPE. Roedd yn agoriad llygaid i fi. Mae pobl yng nghanol popeth a wnawn a gyda'n gilydd, rydym ni’n cyflawni mwy. "
Mae'r tîm caffael â 21 o bobl yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Maen nhw’n gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ond maen nhw’n gweithio o gartref yn bennaf ers y pandemig. Roedd y tîm nid yn unig wedi dod o hyd i’r cyflenwadau ond hefyd wedi cydlynu rhoddion o PPE ac offer (oedd wedi cael ei wirio ar gyfer diogelwch clinigol). Roedd y tîm hefyd wedi cefnogi’r tîm cyfalaf yn CTM i sicrhau bod digon o offer ar gael wrth i’r galw am wasanaethau gynyddu’n aruthrol yn yr ysbytai acíwt, ysbytai cymunedol ac yn Ysbyty'r Seren.
Ar ddechrau'r pandemig, roedd y tîm wedi meithrin perthynas hollbwysig â'r Bathdy Brenhinol, a ddatblygodd fisorau meddygol ar gyfer staff ynghyd â chyflenwi PPE hanfodol o'i siopau.
“Crewyd y cyswllt hwn trwy arweinydd clinigol Covid-19 Ysbyty Brenhinol Morgannwg Huw Davies,” meddai Esther. “Roedd yn golygu ein bod wedi gallu cael fisorau ar gyfer Cymru gyfan, nid dim ond ar gyfer CTM, hyd nes i ni ddod o hyd i gyflenwadau eraill o ffynonellau eraill.”
Dywedodd cyn-Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cwm Taf Morgannwg, Alan Lawrie, a ymddeolodd o'r swydd ym mis Mawrth: “Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb sy'n gweithio yn y GIG, a hynny yn y rheng flaen yn darparu triniaeth a gofal neu wrth weithio’n ddiflino i gefnogi'r staff rheng flaen hynny.
“Bwriodd y tîm caffael iddi yn ddiymdroi flwyddyn yn ôl, a daethon nhw yn rhan annatod o'n cenhadaeth i wneud y gorau y gallem ni i'n cleifion. Aethon nhw y tu hwnt i alwad dyletswydd i sicrhau bod gennym y cyflenwadau a'r offer oedd eu hangen i ofalu am bobl.
“Roedd sicrhau bod offer ar gael ar gyfer ysbyty maes ac ehangu ein capasiti gofal critigol gan 200% o fewn wythnosau yn bell o fod yn ddiwrnod arferol o waith, ond roedd ein timau ledled CTM wedi gweithio’n ddiflino gyda staff gweithredol a chlinigwyr i wneud hynny, a hynny ag amynedd, diwydrwydd ac agwedd gadarnhaol dros ben.
“Mae hyn wedi parhau trwy gydol y flwyddyn, ac mae’n rhoi tawelwch meddwl i ni i wybod bod ein cyflenwadau’n wydn ar adegau o bwysau eithafol. Da iawn i chi i gyd, a diolch yn fawr! ”
Mae gan y tîm caffael feddylfryd newydd erbyn hyn sef 'gweithio gyda Covid-19', ac mae ar fin addasu model PPE newydd i baratoi ar gyfer y misoedd nesaf. Trwy ennill gwobr Cymru, byddan nhw bellach yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Medi.