Mae fferyllwyr o Glwstwr Gofal Sylfaenol y Rhondda ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth eu boddau ar ôl cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Mae Fforwm Clwstwr Fferyllwyr y Rhondda wedi cyrraedd y rhestr fer am y wobr ar gyfer Partneriaeth Gofal Sylfaenol yng ngwobrau’r Chemist and Druggist. Bydd y seremoni’n cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni. Cafodd y Fforwm, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o 27 o fferyllfeydd cymunedol ledled y Rhondda, ei sefydlu y llynedd er mwyn creu cyswllt ffurfiol â thimau gofal sylfaenol eraill yn yr ardal.
Roedd Aled Roberts, fferyllydd yn Well’s Pharmacy yng Ngilfach Goch, un o blith tri fferyllydd lleol oedd wedi sefydlu’r fforwm. Meddai ef:
“Mae dod â chynifer o fferyllwyr cymunedol ynghyd, pob un gyda phrofiad mor amrywiol, yn gyfle gwych i ni i gyd i ddysgu. Roedd y buddion i’r cleifion i’w gweld yn syth, a dim ond tyfu y bydd y buddion wrth i ni fwrw ymlaen â hyn. Mae cleifion yn cael budd o weithlu llawer mwy cysylltiedig, ac o weithlu fferylliaeth sy’n deall yn well beth mae’r clwstwr ehangach yn ei wneud.
“Gwobrau’r Chemist and Druggist yw ‘Oscars’ y byd fferyllol, ac mae’n gyffrous iawn ein bod wedi ein henwebu.”
Cafodd y grŵp ei sefydlu ar y cyd gan y fferyllwyr Dai Williams a Gareth Hughes hefyd.
Dywedodd Gareth, sy’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Proffesiynol yn Fferyllfa Sheppards yn Aberdâr: “Bydd y cymorth gan gymheiriaid o sefydliadau eraill y mae’r Fforwm yn ei gynnig yn arwain yn ddiamheuaeth at ganlyniadau iechyd gwell - bydd yn cefnogi fferyllwyr ac yn eu grymuso i feithrin cysylltiadau â’i gilydd. Bydd y Fforwm hefyd yn annog y fferyllwyr i gredu ym mhotensial fferylliaeth gymunedol a’r nod o wella effeithlonrwydd, gwella gwasanaethau a gwell diogelwch cleifion.”
Ers sefydlu’r fforwm y llynedd, mae fferyllwyr yn gallu rhannu gwybodaeth a thrwy wneud hynny, fel allan nhw wireddu blaenoriaethau iechyd a lles. Mae fferyllwyr yn gwybod llawer mwy erbyn hyn am y gwasanaethau iechyd a lles sydd ar gael yn yr ardal, a gallan nhw anfon cleifion ymlaen at y gwasanaethau hynny heb orfod mynd trwy feddyg teulu.
Ychwanegodd Aled: “Mae ymwybyddiaeth o anghenion iechyd lleol a blaenoriaethau’r clwstwr gofal sylfaenol ymhlith fferyllwyr wedi ei gwneud yn bosibl i ni ganolbwyntio o’r newydd ar ein hymarfer pob dydd. Mae arferion gorau wedi eu rhannu ymhlith fferyllwyr yn y fforwm, a thrwy hynny rydyn ni wedi cysoni’r ddarpariaeth o wasanaethau ledled yr ardal.”
Mae’r fforwm wedi gallu gweithio’n agos gyda’r tîm clwstwr gofal sylfaenol ehangach i wireddu blaenoriaethau a datblygu gyrfaoedd fferyllwyr yn yr ardal, ac mae dau fferyllydd lleol newydd ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol er enghraifft.
Dywedodd Dr Bik Choudhary, meddyg teulu ac Arweinydd Clwstwr ar Glwstwr Gofal Sylfaenol y Rhondda, fod y fforwm yn fanteisiol i bawb ym maes gofal sylfaenol:
“Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol y Rhondda yn cydnabod buddion cydweithio â’n cydweithwyr ym maes Fferylliaeth Gymunedol. Rydym yn ffodus bod gan Glwstwr y Rhondda arweinwyr fferylliaeth dynamig a blaengar oedd wedi cydnabod yr angen i sefydlu’r fforwm, fel bod modd cydweithio a chyfathrebu. Maen nhw hefyd yn cydnabod yr angen i gadw fferylliaeth gymunedol yn berthnasol ac yn wasanaeth y gellir ei addasu i anghenion iechyd a lles pobl y Rhondda, anghenion sy’n newid o hyd.
Mae gwobrau’r Chemist and Druggist yn cydnabod cyflawniadau rhagorol y rhai sy’n chwarae rôl hollbwysig yn y sector fferylliaeth gymunedol. Mae disgwyl i’r seremoni wobrwyo gael ei chynnal ym mis Rhagfyr 2020.