Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gydymdeimlo’n ddiffuant â’r Teulu Brenhinol ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Yn dilyn y newyddion trist iawn, bu'n Cadeirydd, Emrys Elias, a'r Prif Swyddog Gweithredol, Paul Mears, yn cyhoeddi'r datganiad canlynol:
"Â thristwch mawr y clywn am farw Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II.
Diolchwn i’w Mawrhydi am oes heb ei thebyg o wasanaeth, dyletswydd ac ymroddiad, a mynegwn ein cydymdeimlad â’r Teulu Brenhinol ar ran pawb yn ein Bwrdd Iechyd”.