Ym mis Mai, byddwn yn parhau i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol â sefydliadau, gwleidyddion a thrigolion Cwm Llynfi wrth i gam nesaf ein rhaglen gyffrous Dyfodol Iach Maesteg ddechrau.
Casglwyd safbwyntiau yn helaeth ar ffyrdd o ddiwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth leol yn well, gan gynnwys cynllun ar gyfer datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol. Dyma'r pum prif flaenoriaeth iechyd a gofal ar gyfer Cwm Llynfi.
Yn y cam nesaf hwn, byddwn yn:
Byddem wrth ein bodd petasech yn ymuno â'n sgyrsiau ar ddyfodol iechyd a gofal ym Maesteg a Chwm Llynfi yn ehangach.
Mae ein digwyddiad gwybodaeth gyhoeddus nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Iau 25 Mai 2023 (6.30pm-8pm) yng Nghlwb Rygbi Maesteg. Cofrestrwch yma.
Lawrlwythwch ein poster i gael rhagor o wybodaeth ac i gael y newyddion diweddaraf, ewch i'n tudalen we - Dyfodol Iach Maesteg
Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol yng Nghwm Llynfi. Bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon uniongyrchol ond os nad ydych wedi derbyn eich gwahoddiad erbyn dydd Gwener Mai 5ed 2023 cysylltwch â'n Cyfarwyddwr Rhaglen - Dale.Stolzenberg@wales.nhs.uk
I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Dyfodol Iach Maesteg ar-lein.
Ymunwch â'n sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DyfodolIachMaesteg
27/04/2023