Dyfarnu MBE i Fiona Jenkins
Dyfarnwyd MBE yn swyddogol i Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yng Nghastell Windsor ar 9 Chwefror 2022 gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.
Cafodd Fiona ei chydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Mawrhydi yn 2021 am ei 'gwaith a'i gwasanaethau rhagorol ym maes gofal iechyd' ar ôl gweithio i'r GIG ers 1980.
Mae Fiona wedi bod yn Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd yn BIP CTM yn rhan-amser am gyfnod dros dro o'i swydd barhaol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP CaF), a hynny ers mis Tachwedd 2020.
Yn ffisiotherapydd yn ôl ei phroffesiwn ac yn gymrawd o'i chorff proffesiynol, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, mae Fiona wedi gweithio mewn rolau clinigol a rheolaethol ac wedi datblygu strategaethau clinigol drwy gydol ei gyrfa dros 42 o flynyddoedd.
Ymysg y materion mae Fiona wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae datblygu strategaeth adsefydlu a’r fframwaith adsefydlu COVID-19, wrth ddatblygu gwefan adsefydlu ar gyfer hunanreolaeth a gofal dan arweiniad therapydd.
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd ar nifer o grwpiau cenedlaethol, sef Iechyd Anadlol, Strôc, Gofal Llygaid, Adolygiad Cyhyrysgerbydol a grŵp cyfoedion y Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd, mae Fiona hefyd yn aelod o grwpiau trawsbleidiol y Senedd ar gyfer gofal strôc a’r llygaid.
Mae Fiona yn arbenigo fel clinigwr, rheolwr, ymchwilydd a golygydd/awdur mewn adolygu gwasanaethau, darlithio, hyfforddi a mentora ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal â hynny, mae hi wedi darparu dros 50 o ddosbarthiadau meistr ledled y DU a Seland Newydd mewn rheoli ac arwain ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Bu Fiona hefyd yn is-lywydd ac yn aelod o Gyngor Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, yn ogystal ag yn stiward cenedlaethol y Gymdeithas yng Nghymru, a chafodd ei hurddo’n gydymaith Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd.
Meddai Prif Weithredwr BIP CTM, Paul Mears: “Mae Fiona wedi bod yn aelod gwerthfawr o'r Tîm Gweithredol yn ystod cyfnod o drosglwyddo i'n sefydliad, ac mae hi wedi sicrhau bod gan y gwasanaethau Therapïau a Gwyddor Iechyd lefel lawer gwell o strwythur a sefydlogrwydd na phan gyrhaeddodd hi’n gyntaf.
“Mae'r wobr hon yn cydnabod maint a chwmpas gwaith Fiona drwy gydol ei gyrfa sydd wedi bod yn ymroddedig i wasanaethu cleifion, cymunedau, a datblygu proffesiwn y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
“Ar ran ei holl ffrindiau a chydweithwyr yn CTM, hoffwn i longyfarch Fiona am y gydnabyddiaeth arbennig a mawreddog hon.”
Wrth dderbyn ei gwobr yr wythnos hon, meddai Fiona:
“Roedd hi’n braf iawn cael fy MBE yng Nghastell Windsor gan y Tywysog Siarl a bod yng nghwmni un o fy merched ar gyfer y diwrnod cofiadwy hwn.
“Mae 'gwasanaethau ym maes gofal iechyd' yn wobr i bawb rwy'n gweithio gyda nhw. Roedd yn ddiwrnod diymhongar ac arbennig iawn.”
Yn y llun mae Fiona a'i merch hynaf, Rebecca, yng Nghastell Windsor.