Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd a fu, mae'r Alwad am Geisiadau i Garfan 9 Rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan bellach ar agor i dderbyn ceisiadau (cau 11:59 yh ar 14eg o Orffennaf 2024). Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus i Garfan 9 rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan ddechrau'r rhaglen ym mis Medi 2024.
Eleni, mae Comisiwn Bevan yn annog ceisiadau am brosiectau sy'n cyd-fynd â'r themâu canlynol:
Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau eraill sy'n gyson â meysydd blaenoriaeth eich sefydliad.
Mae cyflwyno ceisiadau i Raglen Esiamplwyr Bevan ar agor i unrhyw un sydd â syniad arloesol am brosiect sy'n gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn GIG Cymru, Awdurdodau Lleol a'r Sector Gwirfoddol. Serch hynny, rhaid i brosiectau gael eu cefnogi gan Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Cymru.
Gall cynigion am brosiectau gynnwys y canlynol: cynhyrchion newydd, prosesau neu wasanaethau, ffyrdd newydd o weithio, modelau neu ymyriadau, mentrau datblygu sgiliau newydd neu ymagweddau arloesol eraill i gyflawni newid.
Mae mwy o wybodaeth am Alwad am Geisiadau Carfan 9 Rhaglen Esiamplwyr Bevan, gan gynnwys mynediad at y ffurflen gais ar gael yma. Rhaid i'r ceisiadau ar gyfer Galwad Carfan 9 Rhaglen Esiamplwyr Comisiwn Bevan gael eu cyflwyno gan ddefnyddio'r Ffurflen Gais Ar-lein erbyn 11:59 yh ar 14eg o Orffennaf 2024.
Caiff ymgeiswyr eu hannog i gysylltu â'u Rheolwr Llinell ac Arweinydd Arloesi Lleol os oes ganddynt ddiddordeb mewn cyflwyno cais i'r rhaglen. I gael mwy o fanylion ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan ymgeiswyr, bydd Comisiwn Bevan yn cynnal sesiynau briffio ar-lein (1 awr) ar 20/05/2024 a 20/06/2024.
Byddai'n wych pe gallech rannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr a'ch rhwydweithiau ehangach gan ein bod yn cydweithio i ysgogi newid trawsnewidiol ar draws iechyd a gofal. Os oes gennych gwestiynau am Raglen Esiamplwyr Bevan, e-bostiwch Helen Williams, Swyddog Prosiectau ar helen.e.williams@abertawe.ac.uk.
Cyswllt Arlosei: Tom.powell2@Wales.nhs.uk / Lauren.ware@wales.nhs.uk
01/07/2024