Mae model arloesol, amlddisgyblaethol o roi triniaeth i gleifion gyda chlefydau’r ysgyfaint yn lleihau amseroedd aros yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
 chymorth Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan, mae’r ysbyty yn darparu model newydd o wasanaethau i gleifion. Mae’n manteisio ar arbenigedd nifer o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, sy’n cydweithio i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel, ar sail tystiolaeth, ac mewn modd amserol.
Mae Clefydau Interstitaidd yr Ysgyfaint yn grŵp amrywiol o glefydau a all fod yn gynyddol (sef clefyd sy’n gwaethygu dros amser) ac a all, mewn rhai achosion, ladd. Oherwydd hyn, mae gallu cael gofal arbenigol, diagnosteg a chymorth priodol yn ystod cwrs y salwch yn hollbwysig.
O dan y model newydd, gan roi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith, mae cleifion yn cael gweld y person iawn ar yr adeg iawn. Canlyniad hyn yw bod amseroedd aros cyn yr apwyntiad cyntaf a chyn cael diagnosis yn llai o lawer.
Mae Dr Ruth Williams yn Feddyg Anadlol Ymgynghorol yn yr ysbyty. Eglurodd hi: “Nod y prosiect hwn oedd creu dull symlach a mwy cyson o drin cleifion gyda’r clefydau difrifol hyn ar yr ysgyfaint. Mae datblygu gwasanaeth dan arweiniad Fferylliaeth wedi bod yn hollbwysig i hyn. Mae manteisio ar sgiliau fferyllydd-bresgripsiynydd yn lleddfu’r pwysau ar glinigau dan arweiniad ymgynghorwyr a nyrsys, ond yn bwysicach na hyn mae’n golygu bod modd i gleifion weld fferyllydd arbenigol er mwyn iddo gadw golwg ar ei foddion. Mae hyn yn sicrhau diogelwch cleifion ar y cyd â sicrhau effeithiolrwydd.
“I’r cleifion hynny gyda lefelau sefydlog o’r clefyd, rydyn ni wedi creu system adolygu un-stop. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael adolygiad clinigol ynghyd â phrofion anadlu, oll dan arweiniad Uwch-ffisiolegydd. Mae hyn yn arbed y claf rhag gorfod mynd i nifer o apwyntiadau gyda sawl clinigydd.
“Rydyn ni wedi lleihau’r nifer o gleifion sydd angen apwyntiad dilynol gyda meddyg ymgynghorol. Canlyniad hynny yw bod amseroedd aros yn cael eu lleihau a bod modd cynnal apwyntiadau i adolygu cleifion brys mewn clinigau ‘poeth’ o fewn pythefnos. Rydyn ni’n sicrhau bod ein cleifion yn gallu mynd at y gweithiwr iechyd proffesiynol iawn ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion clinigol, ac mae hwn yn un o bolisïau sylfaenol gofal iechyd darbodus.”
Mae cleifion eisoes yn elwa o'r dull hwn.
“Mae’r dull ‘siop-un-stop’ y mae Ysbyty Tywysoges Cymru wedi ei fabwysiadu wedi arwain at well tryloywder i gleifion ac i staff fel ei gilydd. Fel claf, rhoddodd hyder llwyr i fi.”
“Mae’r gofal mae cleifion yn ei dderbyn yn Ysbyty Tywysoges Cymru bob tro wedi bod yn rhagorol, ond mae’r strwythur mewn-adrannol newydd ac ymarferion newydd wedi bod hyd yn oed yn fwy o fudd i’r claf.”