Yn gynharach y mis hwn, roedd ein timau nyrsio Sepsis ar draws Cwm Taf Morgannwg wedi codi ymwybyddiaeth o risgiau Sepsis, a’r arwyddion a’r symptomau i gadw llygad amdanyn nhw.
Bob blwyddyn ar Fedi 13, rydyn ni’n ymuno â sefydliadau ac unigolion ledled y byd i nodi Diwrnod Sepsis y Byd, er bod llawer o'n staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol ymwybyddiaeth Sepsis trwy gydol y flwyddyn
Beth sy'n achosi Sepsis? Mae sepsis yn cael ei achosi gan system imiwnedd eich corff yn ymateb yn annormal i haint yn y corff.
Mae’n gyflwr sy’n peryglu bywyd ac os nad yw’n cael ei ddiagnosio’n gynnar, mae’n gallu achosi risg sylweddol i gleifion gan arwain at ôl-effeithiau parhaol neu rai sy’n newid bywyd, gan gynnwys methiant organau a hyd yn oed farwolaeth mewn rhai achosion.
Cafodd stondinau gwybodaeth Sepsis eu gosod ar draws ein safleoedd er mwyn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws CTM i nodi unrhyw gleifion y maen nhw’n amau eu bod mewn perygl o Sepsis, ac i addysgu staff am y camau uniongyrchol i'w cymryd gydag unrhyw un sy’n cael ei amau o fod yn ymladd y cyflwr.
Treulion ni amser yn trafod arwyddion a symptomau Sepsis gyda chleifion sy’n ymweld â’n hysbytai hefyd, ac roedd yn bleser gennym ni groesawu Terence Canning, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Sepsis y DU (Cyfarwyddwr Cymru) i’n stondin yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Dywedodd Vanessa Jones, Arweinydd Nyrsio ar gyfer Dirywiad Acíwt, CTM:
“Mae 5 o bobl yn marw gyda Sepsis bob awr yn y DU. Os yw Sepsis yn cael ei ganfod yn gynnar, mae’n bosibl ei drin â gwrthfiotigau ond mae'n hanfodol canfod Sepsis yn gynnar.
“Fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni’n cefnogi ein staff i adnabod arwyddion cynnar Sepsis a’u helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth wneud diagnosis a rheoli Sepsis yn gyflym, pan fyddan nhw’n amau ei fod ar glaf i ddechrau.
“Rydyn ni hefyd am wneud ein cleifion a’n cymunedau yn fwy ymwybodol o arwyddion Sepsis; trwy wneud hyn gallwn weithio tuag at leihau niwed a marwolaethau y gellir eu hatal o Sepsis yn y dyfodol.”
Mae gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU lawer o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i adnabod arwyddion a symptomau Sepsis (mewn oedolion a phlant). Cliciwch yma am wybodaeth a'r cwestiynau mwyaf cyffredin.