Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Meningitis y Byd 2024

Dydd Sadwrn 5 Hydref yw Diwrnod Meningitis y Byd.  

Beth yw Meningitis?  

Meningitis yw llid y pilenni sy'n amgylchynu ac yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn. Gall rhai bacteria sy'n achosi meningitis hefyd achosi septisemia (gwenwyn gwaed). 

Ffeithiau allweddol am meningitis 

  • Gall meningitis effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran 

  • Gall meningitis ladd 

  • Gall meningitis achosi ôl-effeithiau tymor hir 

  • Bacteriol a feirysol yw'r achosion mwyaf cyffredin o feningitis 

  • Does dim brechlyn sy’n gallu darparu amddiffyniad 100% yn erbyn meningitis 

  • Gall arwyddion a symptomau cynnar ymddangos yn debyg i 'ffliw' neu anhwylder stumog 

Gallwch ddarganfod mwy am feningitis yma 

Codi llais i achub bywyd    

Ar Ddiwrnod Meningitis y Byd, helpwch i ledaenu ymwybyddiaeth o feningitis drwy rannu cardiau arwyddion a symptomau yn eich cymuned leol neu ar-lein: https://www.meningitisnow.org/meningitis-explained/signs-and-symptoms/signs-and-symptoms-cards/    

Adroddwch eich stori, eich ffordd chi    

Mae rhannu eich stori meningitis, yn eich geiriau eich hun, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth – gan helpu i godi ymwybyddiaeth hanfodol a sicrhau bod y rhai sydd wedi'u heffeithio gan meningitis yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.  

Rhannwch eich stori meningitis yma: https://www.meningitisnow.org/meningitis-now-stories/news-centre/share-your-story/    

Goleuo'r ffordd sydd o'n blaenau    

Gallwch helpu i gofio'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan meningitis - trwy gynnau cannwyll neu lantarn neu set o oleuadau tylwyth teg eich hun ar Dydd Sadwrn 5 Hydref am 8.30yp.  

Ar Ddiwrnod Meningitis y Byd, bydd pobl ledled y byd yn ffurfio cadwyn golau byd-eang rithwir i symboleiddio ein gobeithion ar gyfer y dyfodol ac i gofio am unrhyw un sydd wedi newid eu bywydau am byth oherwydd meningitis.  

Mae mor syml i gymryd rhan - gallech addurno coeden yn eich gardd gyda goleuadau, addurno lantarn neu gynnau eich hoff gannwyll.  

 

04/10/2024