Yn y llun uchod: Rhes cefn- Owen Pearce, Aureola Tong, Beverley Lewis, Rhiannon Rogers
Rhes flaen- Kirsty Lewis, Jayne Parry, Clare Rowlands, tîm EquinoVarus Talipes Cynhenid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Mae tîm CTEV (Talipes equinovarus cynhenid) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bob amser wedi ymdrechu i ddod â phlant a'u teuluoedd ynghyd i'w galluogi i ddatblygu rhwydwaith cymorth y tu allan i'r amgylchedd clinigol. Yn hanesyddol, mae’r tîm wedi cynnal digwyddiad blynyddol i gyd-fynd ag ymweliad gan Siôn Corn, fodd bynnag, eleni fe benderfynon nhw gynnal eu digwyddiad ar y cyd â Diwrnod Troed Glap y Byd (Mehefin 3) sydd hefyd yn ddyddiad geni Dr Ponseti y mae ei driniaeth yn dal i fod y safon aur o hyd.
Cyfarfu’r tîm ar fore Sadwrn braf yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais. Dywedodd Owen Pearce, Dirprwy Bennaeth Podiatreg ac Orthoteg: “Roedd yn anhygoel i’r staff a’r rhieni weld y plant yn cymysgu ac yn cael cymaint o hwyl mewn amgylchedd anghlinigol. Rhoddodd gyfle i deuluoedd ail-ymgyfarwyddo â hen ffrindiau a meithrin perthynas newydd ag aelodau mwy newydd o'r grŵp. Roedd yn galonogol clywed y teuluoedd yn rhannu eu profiadau ar sut maen nhw wedi rheoli eu teithiau CTEV ac roedd hyn wedi yn ddefnyddiol iawn i bawb.”
09/06/2023