28 Gorffennaf yw Diwrnod Hepatitis y Byd. Yng Nghwm Taf Morgannwg mae gennym Gynllun Dileu Hepatitis tair blynedd ar gyfer 2024 - 2027 a Gweithgor Dileu. Mae nod y cynllun a gweithgor yw mynd i’r afael ag uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.
Mae Hepatitis C (HCV) yn llid ar yr afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis C (HCV). Gall HCV achosi hepatitis acíwt a chronig, gan amrywio o ran difrifoldeb o salwch ysgafn i salwch difrifol gydol oes, a all gynnwys sirosis yr afu a chanser. Mae heintiau HCV acíwt fel arfer yn asymptomatig.
Gwyliwch fideo, a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Gweithredu Clefyd yr Afu Cenedlaethol, a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth am Hepatitis C, beth ydyw, sut y gallwch ei ddal a sut y caiff ei drin.
I gael unrhyw wybodaeth bellach am gynllun Dileu CTM, e-bostiwch CTT_Planning&PartnershipsTeam@wales.nhs.uk.
Darllenwch Ddatganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd 2024.
26/07/2024