Ddydd Mawrth Rhagfyr 20, bydd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael eu heffeithio gan streic yr RCN.
Wrth baratoi ar gyfer yr ail ddiwrnod hwn o streic yr RCN, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio i gadw cymaint o wasanaethau â phosibl er mwyn cynnal diogelwch cleifion heb fawr o darfu.
Bydd gwasanaethau Adran Achosion Brys a Gofal Critigol yn parhau i fod ar gael i’r cleifion mwyaf difrifol a brys, tra bydd cleifion sy’n disgwyl triniaeth wedi’i chynllunio neu lawdriniaeth cleifion mewnol yn cael eu haildrefnu cyn gynted â phosibl.
Bydd pob Canolfan Frechu Cymunedol ar gau am y dydd ar gyfer pob apwyntiad imiwneiddio. Mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y cau hwn wedi'u hysbysu, eu hapwyntiadau wedi'u canslo, ac apwyntiadau newydd wedi'u hanfon allan.
Mae’r timau bwcio priodol yn cysylltu’n uniongyrchol â chleifion sydd â thriniaeth neu apwyntiadau wedi’u cynllunio ar y diwrnod streic yr effeithir arnynt gyda manylion am apwyntiadau a aildrefnwyd.
I gleifion y mae’r newidiadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, mae’r Bwrdd Iechyd yn sylweddoli y gallai hyn fod yn rhwystredig ond mae’n gobeithio bod y cyhoedd yn deall yr angen i gadw gwasanaethau’n ddiogel.
Yn ogystal â streic yr RCN ar Ragfyr 20, mae disgwyl i’r streic a gynlluniwyd gan weithwyr ambiwlans y GMB ar gyfer Rhagfyr 21 a 28 gael effaith sylweddol ar allu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ymateb i alwadau 999.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi diweddaru:
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i:
Ffoniwch 999 dim ond mewn argyfwng difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol i gadw adnoddau gwerthfawr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
Mae manylion llawn streic y GMB ar gael ar wefan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Streic (WAST)
Mae’r Bwrdd Iechyd yn parchu hawl cydweithwyr i gymryd rhan mewn neu gefnogi streic gyfreithlon mewn modd heddychlon a diogel, gan werthfawrogi’r rhesymau pam y pleidleisiodd llawer o gydweithwyr o blaid streicio.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn diolch i’r holl gleifion, y cyhoedd a chymunedau am eu dealltwriaeth yn y mater hwn a hoffai ddiolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sy’n parhau i weithio’n galed dros eu cleifion a’u cymunedau mewn amgylchiadau heriol iawn.
19/12/22