Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru. Pa un a ydych wedi gwneud newid mawr neu fach, mae’r gwobrau yn gyfle i chi arddangos eich gwaith gwych dros iechyd a gofal ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd yr enillwyr yn cael cynnig cefnogaeth barhaus. Bydd ganddynt lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae’r categorïau yr un fath â’r llynedd:
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, yr Athro John Boulton, “Fel trefnwyr Gwobrau GIG Cymru, rydym wrth ein bodd ei bod bron yn amser cyflwyno ceisiadau ar gyfer eleni. Mae'n bwysig arddangos y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ar draws y GIG yng Nghymru ac mae hwn yn llwyfan gwych i wneud hynny. Pob lwc i bob un ohonoch sy'n cystadlu, rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau.”
Darllenwch y canllaw cystadlu cyn gwneud cais. Mae ceisiadau ar agor tan 3 Gorffennaf 2023. Pob lwc!
09/05/2023