Neidio i'r prif gynnwy

Derbyniodd Claire Norman o CTM Deitl Nyrs y Frenhines mawreddog

Mae Claire Norman o Gwm Taf Morgannwg (Gwasanaethau Uwch Nyrsys Arbenigol) wedi cael y teitl fawreddog Nyrs y Frenhines gan elusen nyrsio cymunedol Sefydliad Nyrsio’r Frenhines (QNI).

Mae teitl Nyrs y Frenhines yn dynodi ymrwymiad i safonau uchel o ofal cleifion, dysgu ac arweinyddiaeth ac mae ar gael i nyrsys unigol sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i ofal cleifion, ymarfer nyrsio, dysgu ac arweinyddiaeth.

Rhoddwyd y teitl hwn i Claire yn dilyn proses ymgeisio drylwyr, sy'n gofyn am dystiolaeth fanwl o arfer proffesiynol ac adborth gan reolwyr, cleifion a theuluoedd. Yna caiff hyn ei asesu drwy banel.

Mae nyrsys sy'n dal y teitl yn elwa o weithdai datblygiadol, bwrsarïau, cyfleoedd rhwydweithio, a hunaniaeth broffesiynol a rennir.

Dywedodd Dr Crystal Oldman CBE, Prif Weithredwr y QNI: “Ar ran y QNI hoffwn longyfarch Claire a’i chroesawu fel Nyrs y Frenhines. Mae Nyrsys y Frenhines yn gwasanaethu fel arweinwyr a modelau rôl mewn nyrsio cymunedol, gan ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel ledled y wlad. Mae'r broses ymgeisio ac asesu i ddod yn Nyrs y Frenhines yn drylwyr ac yn gofyn am ymrwymiad clir i wella gofal i gleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Claire a holl Nyrsys y Frenhines newydd sydd wedi derbyn y teitl eleni.”

Dywedodd Claire: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael y teitl Nyrs y Frenhines. Dw i wedi cael y cyfle i weithio gyda rhai nyrsys eithriadol a threuliais y rhan fwyaf o fy ngyrfa nyrsio yn y gymuned, yn gyntaf o fewn CAMHS a nawr Gwasanaethau Arbenigol. Dw i’n angerddol am nyrsio cymunedol a’r cyfle y mae hyn yn ei roi i ni gefnogi unigolion, eu teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw. Edrychaf ymlaen at y cyfle i rwydweithio gyda fy nghyd Nyrsys y Frenhines ac i helpu i hybu nyrsio iechyd meddwl.”

Dywedodd Robert Richards, Nyrs Arweiniol: “Mae’r teitl hwn yn gyflawniad gwych ac yn dangos angerdd, gwaith caled ac ymroddiad Claire i nyrsio. Rydym yn hynod falch ohoni a hoffem ddymuno llongyfarchiadau iddi ar ennill y teitl hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Sefydliad Nyrsio’r Frenhines, ewch i https://qni.org.uk/.

(Lluniau trwy garedigrwydd Sefydliad Nyrsio'r Frenhines).

 

17/12/2024