Mae adroddiad eleni gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Cwm Taf Morgannwg yn canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar bywyd fel cyfnod hollbwysig ar gyfer gosod y sylfeini ar gyfer iechyd gydol oes.
Ar draws ein rhanbarth, mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda phartneriaid, gan gyflawni gwaith arloesol i gefnogi teuluoedd, lleihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Philp Daniels: “Mae’r dystiolaeth dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn glir, gan ddarparu manteision iechyd ac economaidd hirdymor. Drwy ymgorffori’r blynyddoedd cynnar fel blaenoriaeth strategol ac adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill, gallwn roi dechrau gwell i fwy o blant yn CTM a gwella canlyniadau iechyd hirdymor ar draws y rhanbarth.”
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at dri maes allweddol lle rydym yn cydweithio i wella canlyniadau i blant:
- Cyn beichiogi a'r 1000 Diwrnod Cyntaf: Mae iechyd da ar gyfer mamau a chynllunio beichiogrwydd yn hanfodol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae Prosiect Magu yn darparu llwybr gofal integredig i fenywod beichiog a theuluoedd, gan helpu rhieni i feithrin gwydnwch a chadw teuluoedd gyda'i gilydd. Mae canlyniadau cynnar yn dangos gostyngiad o 22% yn nifer y babanod o dan 1 oed sy'n mynd i ofal a lles rhieni gwell.
- Gwella a Diogelu Iechyd: Mae pwysau iach, iechyd y geg, a brechu yn flaenoriaethau. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae rhaglen Dechrau'n Deg Sarn yn dangos dull sy'n cwmpasu'r lleoliad cyfan, gan integreiddio ymwelwyr iechyd, bydwragedd, dietegwyr a therapyddion lleferydd. Mae'r model cydweithredol hwn yn hyrwyddo bwydo ar y fron, brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, a lles emosiynol, gan sicrhau bod plant yn barod ar gyfer yr ysgol.
- Penderfynyddion Ehangach: Mae mynd i'r afael â thlodi a chefnogi parodrwydd ar gyfer yr ysgol yn hanfodol. Ym Merthyr Tudful, mae Banc Babanod (baby bank) Dewi Sant yn dangos pŵer gweithredu cymunedol, gan ddarparu dillad a hanfodion i deuluoedd mewn angen. Ers ei lansio, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi dros 425 o deuluoedd, gan leihau caledi a hyrwyddo urddas.
Darllenwch y adroddiad llawn yma: Adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd 2024-25
12/12/2025