Rydyn ni’n falch o nodi Diwrnod Hawliau'r Gymraeg, diwrnod i hyrwyddo'r hawliau sydd gan bobl yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Eleni, rydyn ni wedi cymryd camau breision wrth ddatblygu ein gwasanaethau dwyieithog. Mae llawer o'n wardiau a'n gwasanaethau wedi ymrwymo i wneud newidiadau i ymgorffori gwasanaethau dwyieithog, a byddan nhw’n ymuno â llawer o wasanaethau eraill ar draws CTM yn eu hymrwymiad i barchu'r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Da iawn i bob gwasanaeth am ddangos eu cefnogaeth i ddwyieithrwydd yn CTM.
Cofiwch - os oes apwyntiad gyda chi neu os ydych chi’n ymweld ag unrhyw un o'r ardaloedd isod, cofiwch ddweud 'shw mae'!
Dyma rai o'n huchafbwyntiau gwasanaeth yn ystod 2022, a’r ardaloedd sydd wedi cwblhau, neu wedi addunedu i gwblhau, gynllun datblygu dwyieithrwydd...
Mae gan gleifion a'u teuluoedd hawliau cynhwysfawr i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u Bwrdd Iechyd lleol, a gallwch chi hefyd ddisgwyl gweld a defnyddio mwy o Gymraeg gyda meddygfeydd, gwasanaethau deintyddol, fferyllfeydd a gwasanaethau offthalmig. I'r perwyl hwn, mae ein partneriaid Gofal Sylfaenol hefyd wedi bod yn gweithio'n galed eleni i wella eu darpariaeth ddwyieithog.
Y llynedd, rhoddon ni Feddygfa Bron-y-Garn ym Maesteg o dan y chwyddwydr. Eleni trown ein sylw at Roderick's Dental, sydd â gwasanaethau deintyddol mewn sawl lleoliad ar draws ardal y Bwrdd Iechyd. Ar gyfer Diwrnod Hawliau'r Gymraeg eleni, rhannodd nyrs ddeintyddol Roderck's Dental hyn gyda ni:
“Dwi’n nyrs ddeintyddol ers 22 mlynedd a thros y cyfnod hwnnw dwi wedi gweld pa mor bwysig yw cyfathrebu, nid yn unig i'r cleifion, ond hefyd i'r staff. Mae astudiaethau'n dangos bod cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf yn arwain at well canlyniadau a dealltwriaeth o'r gofal a'r driniaeth maen nhw’n derbyn. Gall mynd i weld y deintydd fod yn amser pryderus i lawer, mae ein cleifion yn bwysig i ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eu profiad yn well.”
“Mae gennym 8 siaradwr Cymraeg ar draws pedwar o'n safleoedd, sef Bryant, Cefn Coed, Courtland ac 1 ddeintyddfa ym Mae Abertawe. Mae nyrs gyda ni hefyd sydd gyda diddordeb mewn dilyn cwrs i ddysgu Cymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chymorth gwasanaeth cyfieithu Cymraeg BIP CTM, rydyn ni wedi llwyddo i gyfieithu'r rhan fwyaf o wybodaeth ar gyfer ein cleifion sydd i’w gweld yn y dderbynfa. Ochr yn ochr â hyn, mae arwyddion wedi'u gosod yn yr ystafell aros i roi gwybod i gleifion os nad oes siaradwyr Cymraeg ac y gallwn ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar eu cyfer ar safle arall os dymunan nhw hynny. Mae gan bob safle restr o siaradwyr Cymraeg ac ym mha ddeintyddfa maen nhw’n gweithio iddi hi, sydd ar gael yn y dderbynfa.”
“Ym mis Mehefin 2022, gwnaethon ni gyflwyno dewis iaith. Rydyn ni’n gofyn i gleifion yn y dderbynfa beth yw eu dewis iaith, ac rydyn ni wedi creu offeryn ar ein system i gofnodi hyn. Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref, gofynnon ni i 21% o'r cleifion ar gyfartaledd beth oedd eu dewis iaith ac mae hyn wedi'i gofnodi. Rydyn ni’n gobeithio gwella hyn ar ôl i staff gymryd rhan yn yr hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg rydyn wedi ei chael gan y Bwrdd Iechyd.”
I ddarganfod a oes gan wasanaeth deintyddol yn agos atoch chi staff sy'n siarad Cymraeg, neu yn wir unrhyw ddarparwr Gofal Sylfaenol, ewch i hafan ein gwefan, sgroliwch i lawr i 'Dod o hyd i'ch gwasanaeth GIG lleol' a rhowch eich cod post. Bydd pob gwasanaeth gyda staff sy'n siarad Cymraeg yn cael ei nodi yno gyda'r logo Cymraeg oren 'Iaith Gwaith'. Da iawn i Roderick's Dental a'r holl ddarparwyr Gofal Sylfaenol sy'n gwneud yr ymdrech i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Rydyn ni wedi ymrwymo i barchu a hyrwyddo'r hawliau sydd gan gleifion a'u teuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, oherwydd rydyn ni’n gwybod y gall defnyddio'r Gymraeg yn y sector iechyd fod yn fater o ansawdd gofal ac nid dewis yn unig. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw hi i bobl ddefnyddio eu dewis iaith gyda ni ar adeg sy'n aml yn anodd ac emosiynol, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi'r rôl bwysig y mae iaith yn ei chwarae mewn asesu, diagnosis a thriniaeth.
Gwyliwch y fideo byr hwn sy'n esbonio beth yw eich hawliau chi ar draws y system iechyd a gofal.
Nododd Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Bobl a noddwr gweithredol y Gymraeg: Mae Diwrnod Hawliau'r Gymraeg wedi dod yn gyfle gwych i ni ddangos ein hymrwymiad i'r Gymraeg fel sefydliad.
Mae bron i 30 o wardiau a gwasanaethau yn unig eleni wedi addo gwella eu darpariaeth ddwyieithog, sy’n dangos ymroddiad ein gweithlu i gynnig gofal sy'n rhoi'r claf yn gyntaf, sydd wrth gwrs i lawer yn golygu gofal yn Gymraeg. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i blethu'r Gymraeg i ddiwylliant sefydliadol a ffyrdd o weithio eleni, fel ei bod yn dod yn fwy na rhywbeth rydyn ni'n gwybod bod angen i ni ei wneud; yn hytrach, rhywbeth rydyn ni'n ymroddedig i'w gyflawni. Mae ein digwyddiad yn ddiweddar i nodi cyhoeddi Cynllun 5 mlynedd Mwy na Geiriau, a'r adnoddau newydd rydym wedi'u creu i'w rhannu â staff yn dilyn hyn, wedi dechrau ar y gwaith hwn. Gyda bron i 100 o gydweithwyr yn bresennol, roedd yn gyfle gwych i ail-fframio gwasanaethau Cymraeg nid yn unig fel hawl ond hefyd fel angen i rai, a byddwn yn parhau â'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf wrth i ni weithio mewn partneriaeth i ddatblygu ein darpariaeth ddwyieithog. Rydym wedi cymryd camau breision eleni ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi ein staff wrth i ni barhau i wreiddio'r Gymraeg ym mhopeth a wnawn.
Felly defnyddiwch eich Cymraeg gyda ni!
Os hoffech chi gysylltu â ni i rannu eich profiad o ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r Bwrdd Iechyd, anfonwch e-bost at CTT_WelshLanguage@wales.nhs.uk.
Rydyn ni’n croesawu ac yn annog unrhyw adborth.
07/12/2022