Datganiad gan Gareth Robinson, Prif Swyddog Gweithredol, Cwm Taf Morgannwg UHB
Yn oriau mân bore Sul (Mawrth 7, 2021), digwyddodd digwyddiad tân yn un o'n hysbytai cymunedol - Ysbyty Cwm Rhondda.
Effeithiodd y tân ar un ward ac ni ddaeth unrhyw niwed i unrhyw gleifion na staff o ganlyniad i'r digwyddiad.
Cafodd yr holl gleifion yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad eu hadleoli'n brydlon yn yr ysbyty er mwyn eu diogelwch.
Gweithredodd ein staff yn gyflym iawn, ac ar y cyd ag effeithiolrwydd protocolau tân ein Bwrdd Iechyd, cyfyngwyd y tân i un rhan o'r safle a'i ddatrys yn gyflym.
Dylai unrhyw aelodau o’r cyhoedd sydd i fod i ymweld â’r ysbyty heddiw, yn unol â’r cyfyngiadau COVID cyfredol, deimlo’n gwbl dawel eu meddwl bod yr ysbyty’n ddiogel.
Cyfathrebwyd â'r holl berthnasau agosaf y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt ar y ward.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein cydweithwyr gwasanaethau brys i ddelio â'r digwyddiad hwn.