Llongyfarchiadau i Zoe Williams am gynrychioli BIP CTM yn y Gynhadledd Dementia Ryngwladol gyntaf gafodd ei chynnal yng Nghymru.
Roedd Zoe Williams, sef Arweinydd Tîm Therapi Galwedigaethol Gwasanaethau Asesu’r Cof, yn glod i BIP Cwm Taf Morgannwg wrth gynrychioli’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn y Gynhadledd Dementia Ryngwladol gyntaf gafodd ei chynnal yng Nghymru, a’r cyntaf o’i math gafodd ei chynnal ar-lein.
Roedd Zoe yn cyflwyno ar y cyd â gweithwyr amlbroffesiynol o bob cwr o’r byd. Yn y gynhadledd, roedd Zoe yn gyfrifol am ddau gyflwyniad a phoster. Roedd y cyflwyniad cyntaf yn ymwneud â gwerthuso’r ddarpariaeth Therapi Galwedigaethol mewn Gwasanaeth Asesu’r Cof flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd yn dangos gwerth Therapi Galwedigaethol i bobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’r Tîm Amlddisgyblaethol ehangach. Dyma’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Roedd yr ail gyflwyniad, ‘Back to Community life’, yn brosiect ar y cyd â Gwelliant Cymru ac yn ffrwyth cydweithio rhwng rhanddeiliaid allweddol, gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r prosiect yn ymateb cymunedol i’r pandemig a’r agenda adfer. Mae’r prosiect hwn o Aberpennar yn lasbrint fydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys mewn Byrddau Iechyd eraill a mentrau cymunedol.
Mae’r poster yn dangos datblygiad technoleg ddigidol a’r defnydd ohoni yn rhan o’r pecyn o asesiadau sy’n cael ei ddefnyddio gan Therapi Galwedigaethol yn y Gwasanaeth Asesu’r Cof er mwyn rhoi cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia.
Dywedodd Jan Bevan, sef Prif Therapydd Galwedigaethol y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn: “Mae ein gwasanaeth yn ymfalchïo yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud i helpu pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth yn rhan hollbwysig, ynghyd â’n Cydweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, o’r agenda gwella a’r agenda adsefydlu yng Nghymru.
“Mae hyn yn gyrhaeddiad gwych gan Zoe a’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn yn gyffredinol. Maen nhw wedi dangos beth mae modd ei gyflawni os oes diwylliant o gredu yn beth rydyn ni’n ei wneud a’i gyflawni.
“Llongyfarchiadau Zoe, gan bawb yn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn. Am gyrhaeddiad!”