Mae cleifion sy’n mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda mân anaf yn hwyr yn y nos yn cael dewis rhwng aros i gael eu gweld neu ddychwelyd y diwrnod wedyn am apwyntiad wedi’i drefnu, o dan gynllun newydd sy’n cael ei dreialu i leihau amseroedd aros.
Bydd pobl sy’n cyrraedd Adran Argyfwng yr ysbyty gyda rhai cyflyrau ar ôl 9.30pm yn cael cynnig apwyntiad arall, naill yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Rhondda, ar ôl cael eu hasesu gan nyrs frysbennu brofiadol. Gall unrhyw glaf ddewis aros yn yr Adran Argyfwng i gael ei drin, fodd bynnag, yn lle dod yn ôl y bore wedyn.
Dywedodd Arweinydd Clinigol yr Adran Argyfwng, Amanda Farrow: “Mae cleifion sy’n dod i’r Adran Argyfwng yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn hwyr yn y nos gyda mân anaf fel arfer yn gorfod aros am gyfnod hir oherwydd gwaith yr adran. Does dim modd i ni gynnig apwyntiad arall yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda, gan fod y gwasanaeth hwn ar gael rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener yn unig, o 9am tan 4.30pm, a dydy’r gwasanaeth ddim ar gael o gwbl ar Wyliau’r Banc.
“Rydyn ni bellach yn gofyn i gleifion sy’n dod i’r Adran Argyfwng gyda mân anaf ar ôl 9:30 pm i ddod yn ôl y bore wedyn am apwyntiad wedi’i drefnu, naill yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Rhondda. Dim ond ar gyfer rhai cyflyrau penodol y bydd y gwasanaeth hwn ar gael, a hynny ar ôl asesiad gan nyrs frysbennu brofiadol. Bydd cleifion yn cael cynnig moddion i leddfu ar y boen a chymorth cyntaf pan fyddan nhw’n cyrraedd.
“Os bydd gan glaf fân anaf ac mae’n brysur iawn, iawn, yna fydd ddim rhaid iddo aros. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i staff yr Adran Argyfwng weld cleifion mewn ffordd drefnus a bydd hefyd yn helpu o ran cadw pellter cymdeithasol a rheoli aacatal heintiau. ”
Mae’r system hwn o apwyntiadau yn un sy’n cael ei dreialu, ac mae barn cleifion yn cael ei chasglu a’i hystyried er mwyn penderfynu ar y model ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol.
Bydd cleifion agored i niwed a phlant gyda clais neu anaf ac sydd ddim yn gallu symud yn cael eu gweld y tro cyntaf y byddan nhw’n dod aton ni, yn lle cael cynnig apwyntiad ar y diwrnod wedyn.