Mae'r Tîm Endosgopi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cymryd rhan mewn prosiect peilot sy’n ceisio trawsnewid y ffordd mae endosgopïau’n cael eu cynnal, er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella cysur cleifion.
Dan arweiniad yr Hepatolegydd Ymgynghorol, Dr Dai Samuel, mae'r prosiect yn treialu'r defnydd o offer endosgopi trwy’r trwyn. Mae hyn yn golygu bod modd cynnal archwiliadau endosgopi drwy'r trwyn yn hytrach na thrwy’r gwddf, a hynny gan ddefnyddio sgôp llawer llai o faint.
Meddai Dr Samuel; “Ers amser maith, mae endosgopïau traddodiadol wedi bod yn brofiad anghyfforddus i rai cleifion, ac mae'n rhaid cynnal yr archwiliad hwn mewn theatr. Mae'r endosgopi trwy’r trwyn yn wahanol iawn ac yn fwy cyfforddus o lawer. Does dim angen tawelydd gyda hyn, felly mae modd i ni gynnal yr archwiliad mewn ystafell i gleifion allanol er mwyn rhoi diagnosis, ac mae’n bosib ei gynnal y tu hwnt i ysbytai acíwt a hyd yn oed mewn meddygfeydd. Mae'n fwy cyfleus ac yn gyflymach o lawer i'n cleifion, felly bydd yn cael effaith wirioneddol ar ein rhestrau aros.”
Mae'r cynllun peilot hwn wedi dwyn ffrwyth yn sgil y gwaith tîm rhagorol a'r cydweithio rhwng ein Tîm Endosgopi, dan arweiniad y Brif Nyrs Rhiannon Bowen a Diane Morgan, Moondance ac Olympus, ond hefyd Adran y Glust, y Trwyn a’r Gwddf, yr Adran TG a Thîm y Cleifion Allanol, yn ogystal â chymorth anhygoel gan ein cyfarwyddiaeth. Heb yr holl bobl hyn, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib.
Mae’r prosiect peilot yn cael ei ariannu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro gan Moondance Cancer Initiative, ac ar ôl ei werthuso, y nod yw y bydd pob Bwrdd Iechyd ledled Cymru yn cynnig yr archwiliad.
“Mae'r gallu i ddefnyddio'r offer hwn yn hollbwysig,” esboniodd Dr Samuel. Bydd hyn yn arwain at ddiagnosis cyflymach i fwy o gleifion ac yn galluogi pobl sy'n poeni am endosgopi traddodiadol neu sy'n methu â’i oddef i gael gofal a chanlyniadau teg. Yn ogystal â hynny, mae’n rhyddhau ein theatrau ar gyfer archwiliadau a thriniaeth sy'n gofyn am therapi nad oes modd eu cynnal yn unrhyw le arall.”
Meddai Megan Mathias, Prif Weithredwr Moondance Cancer Initiative: “Rydyn ni o’r farn fod datblygiadau arloesol fel endosgopi trwy’r trwyn yn creu cyfle sylweddol i drawsnewid y gwaith o roi diagnosis cynnar a chanfod canser yng Nghymru. Trwy'r prosiect hwn, mae Hasan Haboubi yng Nghaerdydd a'r Fro, a Dai Samuel yn arwain y ffordd wrth ddangos bod lle i endosgopi trwy’r trwyn wrth fwrw ati â’n llwybrau diagnostig.”