Cymdeithas Orthopedig Indiaidd Prydain (BIOS) sydd wedi trefnu’r gynhadledd ac mae misoedd o waith wedi ei wneud ganddynt. Mae’r BIOS is-adran o Gymdeithas Orthopedig Prydain.
Mae gan y gymdeithas aelodaeth o dros 500 o lawfeddygon orthopedig o bob rhan o'r DU ac mae wedi ymrwymo i addysg ac i ledaenu gwybodaeth ymhlith ei haelodau.
Mae bron i 600 o lawfeddygon o bob cwr o'r byd wedi cofrestru i fynychu'r gynhadledd stiwdio, i’w chynnal ar Orffennaf 2 a 3.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chychwyn yn ffurfiol ar lein gan y Gweinidog Iechyd y Farwnes Morgan gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn Brif Westai ar Orffennaf 3.
Dywedodd Mr Chandratreya a fydd yn cadeirio'r digwyddiad: “Rydw i’n teimlo ei bod yn fraint i mi gael fy ymddiried i drefnu’r gynhadledd uchel ei bri hon. Rwy’n siŵr y bydd y mynychwyr yn dysgu sawl neges bwysig gan y gyfadran ryngwladol.
Dywedodd yr Is-gadeirydd yr Athro Singhal: “Dyma’r tro cyntaf i gynhadledd mor uchel ei bri gael ei chynnal yng Nghaerdydd. Bydd yn codi proffil BIP Cwm Taf Morgannwg a phroffil Caerdydd a Chymru mewn cylchoedd orthopedig rhyngwladol. "
Dywedodd Carl Verrecchia, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Pen-y-bont ar Ogwr, “Rydym yn hynod hapus a balch bod ymgynghorwyr o’i ysbyty yn ymwneud â threfnu cynadleddau byd-eang mor uchel eu bri”
Mae Mr Rahul Kotwal, Mr Atul Gaitonde, Mr Kodali Prasad a Mr Ajay Sharma, Cwm Taf Morgannwg, yn cynorthwyo’r gwaith o drefnu’r gynhadledd gyda chymorth cydweithwyr Ymgynghorol o'r ysbytai eraill yn y rhanbarth.
I fynd i BIOSCON, gyda chofrestriad AM DDIM ac i ennill 11 pwynt Datblygu Proffesiynol Parhaus ewch i www.biosconference.com