Mae Cynghorau Iechyd Cymuned (CICau) yn ceisio adborth yn rheolaidd gan gleifion a’r cyhoedd am eu gwasanaethau GIG.
Mae gan Gwm Taf Morgannwg ddiddordeb mewn clywed am brofiad y claf o gyrchu adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y CIC yn rhannu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a darparwyr gwasanaeth y GIG, yr hyn y mae pobl yn ein cymunedau yn ei ddweud wrthynt. Mae hyn er mwyn i'r Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaeth y GIG weld beth mae pobl yn meddwl sy'n gweithio'n dda a gweithredu i wella'r gwasanaeth lle mae angen hyn, cyn gynted â phosibl.
Beth fu'ch profiad o gyrchu Gofal a thriniaeth brys?
Gallwch rannu eich barn â CIC Cwm Taf Morgannwg trwygwblhau eu harolwg profiad claf/defnyddwyr gwasanaeth.
https://forms.office.com/r/U1iXfsdrZi
Fel arall, efallai yr hoffech siarad ag aelod o staff CIC, a fydd yn cwblhau'r arolwg ar eich rhan dros y ffôn.
Gallwch gysylltu â'ch CIC lleol trwy:-
Ffôn: 01443 405830 (nodwch fod galwadau yn cael eu dargyfeirio i rif ffôn symudol ar hyn o bryd)
E-bost: enquiries.ctmchc@waleschc.org.uk
Tecstiwch: 62277 Dechreuwch eich neges gyda CTMCHC ac yna'ch adborth
Post: Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg, Tŷ Antur, Parc Navigation, Abercynon. CF45 4SN.
Dilynwch CIC Cwm Taf Morgannwg - eich corff gwarchod iechyd GIG annibynnol ar Facebook, Twitter ac Instagram
https://www.instagram.com/cwmtafmorgannwg_chc
Dywedwch wrth CIC Cwm Taf Morgannwg beth yw eich barn erbyn 17 Medi 2021.