Ym mis Awst 2021, cymeradwyodd Cyngor Staff y DU broffiliau swyddi diwygiedig a chyhoeddodd ganllawiau wedi'u diweddaru i egluro'r gwahaniaeth rhwng swyddi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 3. Cadarnhaodd y canllaw hwn mai Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 sy'n bennaf gyfrifol am ddyletswyddau gofal personol, tra y dylai Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 a chydweithwyr nyrsio uwch eraill ymgymryd â dyletswyddau gofal clinigol.
Ar sail Cymru gyfan, mae Byrddau Iechyd wedi bod yn gweithio o fewn fframwaith y cytunwyd arno i ddilysu grwpiau staffio Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar gyfer y rhai a allai fod yn gymwys i drawsnewid i swyddi Band 3. I staff sydd wedi cael eu dilysu a'u cefnogi i symud i swydd Band 3, bydd unrhyw ôl-daliad yn cael ei dalu yn ystod rhediad cyflog Gorffennaf 2026.
Gall cyn-weithwyr a oedd yn gweithio i'r Bwrdd Iechyd fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 hefyd fod yn gymwys i gymryd rhan yn y broses ddilysu i adolygu unrhyw hawl i daliad cydnabyddiaeth. I fod yn gymwys, rhaid bod unigolion wedi bod yn gweithio mewn swydd Band 2 ar 1 Ionawr 2025. Yn anffodus, os nad oeddech yn y swydd ar y dyddiad hwn, ni allwn fwrw ymlaen â'r dilysu.
Pan bydd hawl i daliad cydnabyddiaeth yn cael ei gadarnhau, bydd y manylion banc a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gyhoeddi'r taliad terfynol ar adeg terfynu cyflogaeth y Bwrdd Iechyd yn cael eu defnyddio i brosesu'r taliad yn rhediad cyflog Gorffennaf 2026.
Bydd y broses ddilysu yn cynnwys cyfarfod rhyngoch chi a'ch cyn-reolwr i gadarnhau eich bod wedi cyflawni dyletswyddau clinigol tra'n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 yn ystod y cyfnod perthnasol.
Mae'r taliad cydnabyddiaeth wedi'i gynllunio i gydnabod dyletswyddau clinigol a allai fod wedi cyd-fynd â chyfrifoldebau Band 3 yn flaenorol. Bydd y swm sy’n cael ei rhoi yn seiliedig ar gyfanswm hyd gwasanaeth pob unigolyn (mewn blynyddoedd a misoedd) yn y swydd Band 2 sydd bellach yn cael ei hystyried yn gyfwerth â dyletswyddau Band 3. Caiff taliadau eu gwneud ar sail pro rata yn ôl oriau cytundebol a byddan nhw’n destun Treth ac Yswiriant Gwladol, ond ni fyddan nhw’n bensiynadwy.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer dilysu ac os cawsoch eich cyflogi fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ionawr 2025, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Pobl ar: CTM.AccessPeopleServices@wales.nhs.uk. Bydd y tîm yn rhoi cyngor i chi am y camau nesaf fel y bo'n briodol.
Mae'r dyddiad cau i gysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar gyfer unrhyw ddilysiadau allanol yn 21 Mawrth 2026.
18/03/26