Mae GIG Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn manylu ar y cynnydd da sy’n cael ei wneud o ran ymchwilio i COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty yng Nghymru, a dysgu o’r achosion hyn.
Wedi’i sefydlu ym mis Ebrill 2022, mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd yn cefnogi cyrff GIG Cymru i gynnal adolygiad o ddigwyddiadau diogelwch cleifion COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022. Mae’r rhaglen wedi rhoi blaenoriaeth i ymchwilio i’r achosion mwyaf cymhleth, gyda’r nod o roi cymaint o atebion â phosibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a staff sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 nosocomiaidd. Mae’r rhaglen hefyd yn ceisio gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd dysgu ar draws GIG Cymru, i gymell gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch.
Oherwydd graddfa’r pandemig, er eu bod mewn lleoliad gofal iechyd, roedd cleifion yn yr ysbyty ac mewn lleoliadau cleifion mewnol eraill yn wynebu mwy o risg o ddal COVID-19.
Yn ei blwyddyn gyntaf, mae’r rhaglen wedi cefnogi cyrff GIG Cymru i asesu ac ymchwilio i dros 5,000 o achosion o COVID-19 Nosocomiaidd, sy’n bodloni’r diffiniad o ddigwyddiad diogelwch cleifion. Mae’r rhaglen ar y trywydd cywir i ymchwilio’n llwyddiannus i bob achos o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty erbyn mis Mawrth 2024.
Mae’r canfyddiadau yn yr adroddiad yn cynnwys;
Dywedodd llefarydd ar ran Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd: “Fe wnaeth GIG Cymru addasu yn gyflym a newid ei ffocws gweithredol i leihau effaith niweidiol COVID-19 mewn ymateb i’r pandemig a gweithiodd staff yn ddiflino drwy gydol y cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes. Er yr holl ymdrechion, bu tarfu difrifol ar weithgarwch gofal iechyd o ganlyniad i COVID-19. Mae datblygu ein dealltwriaeth am COVID-19 Nosocomiaidd a phrofiadau pobl ohono yn ein galluogi i adnabod meysydd i’w gwella a rhannu’r hyn a ddysgwyd i sicrhau bod mesurau atal a rheoli heintiau yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae llawer iawn o waith i’w wneud eto yn ystod ail flwyddyn y rhaglen ac mae’n bwysig bod y rhaglen hon yn rhoi safbwyntiau clir a fydd yn parhau i arwain at newidiadau ystyrlon.”
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Chris Jones: “Mae’r Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd a Llywodraeth Cymru yn estyn eu cydymdeimlad diffuant i’r rheini a gollodd anwyliaid wedi iddynt ddal COVID-19 mewn lleoliadau gofal iechyd. Roedd COVID-19 yn haint newydd ac anrhagweladwy a oedd yn ei wneud yn anodd dros ben i’w reoli, ac roedd effaith pandemig COVID-19 ar ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr, staff y GIG a’r cyhoedd yn enfawr. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr y GIG a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hyd yma. Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi cipolwg cenedlaethol gwerthfawr iawn a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.”
Bydd y Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd yn gweithio gyda chyrff GIG Cymru i adnabod, rhannu a chynnwys yr hyn a ddysgwyd yn ail flwyddyn y rhaglen. Bydd digwyddiadau diogelwch yn ymwneud â COVID-19 nosocomiaidd (a gafwyd yn yr ysbyty) ar ôl mis Ebrill 2022 yn parhau i gael eu harchwilio gan gyrff GIG Cymru fel rhan o’u dyletswyddau.
Darllenwch fwy am y rhaglen a'i Hadroddiad Dysgu Interim.
29/03/2023