Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi buddsoddiad yn Ysbyty Cymunedol Maesteg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi cynlluniau i uwchraddio a buddsoddi mewn cyfleusterau cleifion mewnol ac allanol yn Ysbyty Cymunedol Maesteg.

Bydd gwaith atgyweirio hollbwysig yn dechrau ar do’r adeilad cleifion mewnol yn yr wythnosau nesaf, a bydd gwaith uwchraddio sylweddol yn dechrau ar Ward Llynfi yn yr haf.

Oherwydd y pwysau yn sgil pandemig COVID-19, caewyd Ward Llynfi ddiwedd y llynedd, a chafodd y staff a’r cleifion eu symud i’r ysbyty maes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty’r Seren. Mae hyn wedi arwain at gyfle unigryw i’r Bwrdd Iechyd allu gwneud gwaith gwella mawr ar safle Ysbyty Cymunedol Maesteg.

Y cynnig yw y bydd y buddsoddiad o tua £1.6m mewn cyfleusterau cleifion mewnol yn sicrhau bod y ward yn cyrraedd safonau modern a safonau o ran pellter rhwng y gwelyau yn unol â’r canllawiau rheoli heintiau diweddaraf, a sicrhau bod y safle yn well ac yn fwy diogel.

Bydd Ysbyty’r Seren yn parhau i gadw gwelyau ar gyfer y cleifion o Ben-y-bont ar Ogwr a fyddai fel arall wedi derbyn gofal yn Ysbyty Cymunedol Maesteg, tra bod y gwaith ar yr ysbyty yn parhau.

Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu’r adnoddau arbennig i gleifion allanol sydd ar gael i wasanaethau yn ardaloedd Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr.

Oherwydd hyn, yn ogystal â’r gwaith ar y cyfleusterau cleifion mewnol, bydd BIP CTM hefyd yn buddsoddi yn y gwaith o wella cyfleusterau'r ysbyty i gleifion allanol.

Bydd y datblygiad yn cynnwys ehangu'r cyfleusterau i gleifion allanol a gwneud mwy o le i gleifion yno. Bydd hyn yn galluogi gwasanaethau mwy arbenigol i ddarparu ar gyfer cleifion yng Nghwm Llynfi a’r cylch.

Bydd y cynlluniau ar gyfer gwella Ysbyty Cymunedol Maesteg yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gymuned leol, a byddan nhw’n cynnwys y Maesteg Hospital League of Friends. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfleusterau’r ysbyty yn diwallu anghenion cymunedau Maesteg ac ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn datblygu parc iechyd a lles yn yr hirdymor.

Dywedodd Marcus Longley, Cadeirydd BIP Cwm Taf Morgannwg: “Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn Ysbyty Maesteg, a’u datblygu. Mae’r ysbyty yn adnodd gwerthfawr i bawb yn y gymuned, ac rydyn ni am sicrhau ei fod yn safle diogel a modern ar gyfer y dyfodol. Byddwn ni’n ymgysylltu â’r gymuned leol er mwyn sicrhau bod y datblygiadau yn yr adran cleifion allanol yn benodol yn diwallu eu hanghenion.”