Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn treialu gwasanaeth newydd, sy’n debygol o fod yr un cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac sy’n ei gwneud yn bosibl i gleifion adael yr ysbyty yn gynt.
Rhan o’r treial yw defnyddio pwmp Accufuser. Pwmp defnydd untro yw hwn, sy’n rhoi moddion i’r claf trwy ei wythiennau yn araf dros amser. Mae Tîm @Home y Bwrdd Iechyd yn treialu’r pwmp, i roi gwrthfiotigau i gleifion yn eu cartref eu hunain.
Trwy’r treial, bydd modd i gleifion sydd angen cymryd moddion trwy eu gwythiennau sawl gwaith y dydd, ac sy’n bodloni’r meini prawf, adael yr ysbyty yn gynt na’r disgwyl. Bydd y Tîm @Home Mewnwythiennol yn paratoi’r pwmp Accufuser yng nghartref y claf cyn ei roi iddo. Yn rhan o’r pwmp mae balŵn sy’n cynnwys y gwrthfiotig sydd mewn ‘wy’ plastig. Mae’r gwrthfiotig yn cael ei ryddhau’n araf i mewn i lif y gwaed trwy gydol y dydd.
Wedyn, 24 awr yn ddiweddarach, bydd y nyrs yn tynnu’r pwmp. Mae’r pwmp yn ddigon bach fel y gall cleifion fynd ati i wneud eu pethau trwy gydol y dydd yn y cyfamser, a’i gario o gwmpas gyda nhw yn eu poced.
Dywedodd Jacqui Morgan, Uwch-nyrs Dros Dro yn y Gwasanaeth @Home, fod y manteision i gleifion yn anferthol:
“O’r blaen, byddai’r cleifion hyn wedi gorfod aros yn yr ysbyty, a fydden nhw ddim wedi gallu mynd adref. Mae modd rhoi moddion, yr oedd rhaid i nyrs eu rhoi 2 i 4 gwaith diwrnod, unwaith y dydd yn unig erbyn hyn.
“Gall cleifion fynd adref, cael gofal a dychwelyd at eu bywyd arferol gymaint â phosibl. Ar yr un pryd, mae’n rhyddhau gwelyau yn yr ysbyty i’r cleifion hynny sydd eu hangen.”
Roedd Hayden Thomas, 78 oed o Donyrefail, yn un o’r cleifion cyntaf i gael ei drin yn y treial. Dywedodd:
“Yn y dechrau, es i i’r ysbyty am apwyntiad rheolaidd ond fel y digwyddodd pethau roedd rhaid i fi aros yno dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Hwn oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i fi orfod aros yn yr ysbyty ac roedd yn rhwystredig iawn. Roedd fy arhosiad yn yr ysbyty wedi gwneud i fi’n deimlo’n isel.
“Gofynnodd un o’r meddygon i fi a oeddwn i eisiau mynd gartref, ac a fyddwn i’n gallu eu helpu gyda’r treial. Roedd gadael yr ysbyty a mynd adref yn fendith. Roeddwn i’n gallu mynd adref heb orfod mynd yn ôl. Fyddwn i ddim wedi mynd adref ar yr adeg yna heb eu help nhw.”
Yn ôl y Dr James Bolt, Meddyg Ymgynghorol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywio ar gyfer Triniaeth Fewnwythiennol, a gyflwynodd y ddyfais i’r Bwrdd Iechyd ynghyd â Jacqui, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn i’r Bwrdd Iechyd:
“Os gallwn ni osgoi derbyn claf sydd angen dim byd mwy na chyfnod estynedig o driniaeth â gwrthfiotigau, yna bydd hynny nid yn unig yn arbed arian i’r GIG, ond bydd hefyd yn fwy cyfforddus i’r claf gan y bydd yn ei gartref ei hun, a dyna yw’r peth pwysicaf yn y pendraw”.
“Mae hwn yn gyfnod treial ar hyn o bryd, ond mae cyfleoedd mawr iawn yma i’w ddefnyddio yn achos moddion eraill. Rydyn ni’n gobeithio ymestyn y treial yn y dyfodol agos.”
Roedd y fferyllydd Dan Phillips hefyd yn rhan o ddatblygu’r treial hefyd, ac roedd wedi gwneud yn siŵr y gall y Bwrdd Iechyd roi’r cyffuriau i gleifion trwy’r pwmp mewn modd diogel. Ychwanegodd Dan:
“Trwy bympiau Accufuser, mae ffordd arall gyda ni o drin heintiadau nawr. Bellach, mae gyda ni ddewis helaethach o wrthfiotigau, a gallwn ni drin heintiadau cymhleth yng nghartref y claf. Doedd dim modd i ni wneud hynny o’r blaen."
Mae tri chlaf wedi cymryd rhan yn y treial hyd yma trwy wasanaeth @Home. Mae gan y Byrddau Iechyd eraill ddiddordeb mawr yn y treial hefyd.
Mae’r gwasanaeth @Home yn dîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol sydd â’r nod o gynnig dewis amgen i gleifion yn lle eu derbyn i’r ysbyty. Mae’r tîm yn cynorthwyo staff i ryddhau cleifion 18 oed a throsodd yn gynt.