Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn croesawu Pennaeth Bydwreigiaeth newydd

Mae Debbie Jones wedi’i phenodi’n Bennaeth Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.  

Dechreuodd Debbie ei gyrfa ym myd nyrsio a bydwreigiaeth 20 mlynedd yn ôl, ac yn fwyaf diweddar bu’n Bennaeth Diogelwch ac Ansawdd Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau sy’n ymwneud â bydwreigiaeth, gan gynnwys gofal mamolaeth risg uchel, sonograffeg a dyletswyddau bydwragedd arweiniol gweithredol. Arweiniodd Debbie y gwaith o sefydlu’r gwasanaeth sonograffeg bydwreigiaeth, model sy’n cael ei roi ar waith mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Wrth siarad am ei phenodiad dywedodd Debbie: “Rydw i’n gyffrous i fod yn ymuno â CTM ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm sy’n ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau oll i fenywod a theuluoedd.  

“Fel cefnogwr grymuso cleifion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal, rydw i’n angerddol am sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.  Rydw i’n credu bod cydweithio â menywod a theuluoedd yn arwain at ddatblygu a diwygio gwasanaethau’n ystyrlon.” 

Mae gan Debbie brofiad o greu a gweithredu polisïau, strategaethau, pwyllgorau, a grwpiau llywodraethu.  Mae hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth weithredu newid ar draws y sefydliad i gefnogi’r agenda Sicrhau Ansawdd ac Effeithiolrwydd Clinigol, gan gynnwys y fframwaith Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad. 

Fel rhan o'i hethos, mae Debbie yn rhoi pwyslais mawr ar annog lles a datblygiad gweithwyr, y mae hi'n teimlo sydd â chysylltiad annatod â diogelwch cleifion a gofal o ansawdd uchel.  Mae'n cefnogi hyrwyddo ymwybyddiaeth o werthoedd ac egwyddorion y Bwrdd Iechyd gan ei bod yn teimlo mai dyma'r sylfeini y gall diwylliant iach o ran diogelwch cleifion a dysgu ffynnu arnyn nhw. 

Dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth CTM: “Rydw i’n falch iawn o allu croesawu Debbie i’r tîm yn CTM. Bydd ei phrofiad ym maes diogelwch cleifion ac o gydweithio â defnyddwyr gwasanaethau i sicrhau gwelliannau parhaus yn ased enfawr i’n tîm.” 

 

15/07/2024