Hoffem ni groesawu ein Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro newydd, Gareth Robinson, sydd wedi ymuno â BIP CTM. Daw Gareth â chyfoeth o brofiad i’r rôl ar ôl gweithio mewn rolau gweithredol a rolau gweithredol uwch yn y GIG ac mewn sefydliadau cysylltiedig. Mae Gareth yn ymuno â ni o’i rôl ddiweddaraf fel Rheolwr Gyfarwyddwr Ysbyty Maelor Wrecsam.
Daw penodiad Gareth ar ôl ein cyhoeddiad diweddaraf y bydd Alan Lawrie yn ymddeol o’i rôl fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau CTM ym mis Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Alan weithio gyda’r Tîm Gofal Sylfaenol Cenedlaethol am dri diwrnod yr wythnos i gefnogi amrywiaeth o raglenni cenedlaethol.
Dywedodd Gareth: “Rydw i wrth fy modd yn ymuno â BIP CTM, ac rydw i’n ddiolchgar am y croeso cynnes rydw i eisoes wedi ei gael gan gydweithwyr. Rydw i’n deall bod pandemig COVID-19 yn parhau i roi pwysau digynsail ar ein timau, a bod llawer o’n staff bellach yn teimlo effaith hyn wedi misoedd o straen a heriau dwys. Mae ymroddiad a chadernid y staff hefyd wedi gadael argraff ddofn arnaf i, a thalaf deyrnged i’r ffyrdd anhygoel mae pawb wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod hwn. Edrychaf ymlaen at gynorthwyo ein timau gweithredol a gwneud popeth posibl i helpu i oresgyn yr heriau a wynebwn”.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr BIP CTM: “Rydw i wrth fy modd bod Gareth wedi ymuno â ni, a hoffwn i estyn croeso cynnes iawn iddo i CTM. Er bod hwn yn gyfnod heriol i ymuno â’n Bwrdd Iechyd, bydd profiad a sgiliau Gareth yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith gweithredol sydd eisoes wedi ei wneud, a bydd yn cynnig cymorth gwych ac arweinyddiaeth gref i’n timau gweithredol ledled ein sefydliad.
“Ar ran y Bwrdd Iechyd, hoffwn i ddiolch i Alan am ei arweinyddiaeth gadarn a’i ymroddiad i’n sefydliad, am ei gyflawniadau ym maes Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl ac yn fwyaf diweddar am arwain ein hymateb gweithredol i bandemig COVID-19. Rydym ni un ac oll yn hynod o ddiolchgar am y profiad a’r wybodaeth y mae wedi eu cynnig i’n Bwrdd Iechyd, a dymunwn yn dda iddo at y dyfodol”.
Dywedodd Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Hoffwn i ddiolch i staff ledled CTM am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a’u cefnogaeth yn ystod fy amser yn y sefydliad. Mae wedi bod yn gyfnod o newid gwirioneddol i’n Bwrdd Iechyd, ac mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol wrth ddelio â phandemig COVID-19. Mae’r arweinyddiaeth, y gwaith tîm a’r angerdd rydw i wedi eu gweld gan bawb ledled CTM wedi bod yn rhagorol. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y sefydliad yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac er y byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr am ychydig o wythnosau eto, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi i gyd yn y dyfodol.”
Byddwn yn dechrau ar y broses o recriwtio olynydd i Alan yn fuan, ac fe fydd yn broses recriwtio allanol ac agored.