Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn cael ei gydnabod gyda Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn 2024

Cafodd BIP Cwm Taf Morgannwg - un o 19 sefydliad o bob rhan o Gymru - Wobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2024 mewn seremoni wobrwyo ym Mae Caerdydd.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS), mae'r wobr Arian yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth weithredol i gymuned y lluoedd arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Yn gynharach eleni, ail-lofnododd CTM Cyfamod y Lluoedd Arfog ac ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd ein Lluoedd Arfog yn ein cymunedau. Mae'r cyfamod yn gofyn i ni ystyried yr amser aros am driniaeth ar gyfer y rhai sydd â chyflwr meddygol o ganlyniad i amser mewn gwasanaeth a'u teuluoedd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac nad ydyn nhw dan anfantais oherwydd hyn. Mae CTM hefyd wedi addo ein hymrwymiad i gefnogi cyn-filwyr ac aelodau'r teulu gwasanaeth i gael gwaith o fewn ein bwrdd iechyd.

Yn ogystal, mae rhwydwaith Lluoedd Arfog Staff CTM. Nod y rhwydwaith yw hwyluso rhannu profiadau a darparu cymorth ar y cyd mewn lleoliad hamddenol, hyrwyddo dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o heriau, sgiliau trosglwyddadwy ac ymwybyddiaeth o gyfyngiadau a brofir gan gyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog.

Mae staff hefyd yn cael eu hannog i gofnodi eu statws Teulu Lluoedd Arfog ar eu Cofnod Staff Electronig er mwyn galluogi'r bwrdd iechyd i nodi aelodau staff y Lluoedd Arfog a darparu gwybodaeth neu gefnogaeth berthnasol.

Dywedodd Karen Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi a Chydymffurfiaeth: “Rydym mor falch ein bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth Arian. Rydym yn gwybod y gall y newid i fywyd sifil fod yn anodd i rai cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ac aelodau o'u teulu, ar adegau. 

Fel gyda’n holl aelodau staff, rydym wedi ymrwymo i gydweithio fel un tîm i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys a'u cynrychioli - un o werthoedd craidd CTM. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin â thegwch a pharch ac yn cael cynnig amgylchedd cefnogol a chroesawgar, pe bai angen iddyn nhw gael mynediad at ein gwasanaethau neu geisio cyfleoedd cyflogaeth gyda'r bwrdd iechyd."  

 

Delwedd: Karen Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi a Chydymffurfiaeth, yn derbyn Gwobr Arian ERS gan y Brigadydd Nick Thomas CBE; Cadlywydd Steve Henaghen, Pennaeth Staff, Dirprwy Lyngesol Rhanbarthol Cymru a Gorllewin Lloegr a Swyddog Awyr Cymru, a Chomodor yr Awyrlu Rob Wood OBE.

Erthyglau Cysylltiedig: https://bipctm.gig.cymru/newyddion/y-newyddion-diweddaraf/dathlu-wythnos-y-lluoedd-arfog-2024/

28/11/2024