Roedden ni wrth ein boddau yr wythnos hon i groesawu 33 nyrs o dramor i Gwm Taf Morgannwg, yn ychwanegol at y 27 nyrs a ymunodd â ni ym mis Medi. Mae’r staff newydd yn setlo yn eu rolau newydd ar ôl cwblhau cyfnod o aros mewn cwarantin.
Cyrhaeddodd y nyrsys o India yng Nghymru ddiwedd mis Medi, a threulion nhw bythefnos yn hunan-ynysu yn Marsh House ym Merthyr Tudful. Maen nhw wedi dechrau yn eu swyddi newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysoges Cymru, ac maen nhw’n cael cymorth bugeiliol i setlo yng Nghymru gan ein Nyrsys Datblygu Ymarfer a thîm y gweithlu.
Mae’r nyrsys newydd yn rhan o garfan o fwy na 146 o gydweithwyr sydd wedi ymuno â Chwm Taf Morgannwg dros y 12 mis diwethaf, o India yn bennaf, ac mae disgwyl i 69 gyrraedd cyn y Nadolig. Mae’r nyrsys wedi ennill cymwysterau ac wedi eu hyfforddi i safon uchel yn barod cyn cyrraedd, ond mae gofyn iddyn nhw gwblhau asesiad ymarferol (arholiad OSCE) i ennill eu cofrestriad â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth cyn gweithio ar ein wardiau fel nyrys cofrestredig. Mae nhw’n cyrraedd ar adeg pan fo ein staff rheng flaen ledled y Bwrdd Iechyd yn wynebu cynnydd yn y nifer o achosion o COVID-19, ac wrth i bwysau’r gaeaf ein cyrraedd.
Meddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwm Taf Morgannwg Donna Hill: “Rydyn ni ar ben ein digon yn croesawu ein carfan nesaf o nyrsys o dramor, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw ar y wardiau. Er gwaethaf yr heriau amlwg eleni, mae’r ymgyrch recriwtio dramor wedi bod yn bosibl oherwydd ein Nyrsys Datblygu Ymarfer rhagorol a’r tîm prosiect cynorthwyol.
“Mae hon yn enghraifft go iawn o weithio mewn tîm, nid yn unig wrth recriwtio staff ond hefyd wrth hyfforddi’r nyrsys a rhoi’r gofal bugeiliol angenrheidiol iddyn nhw, fel y gallan nhw addasu i’w cartref newydd a diwylliant newydd. Hoffwn i ddweud da iawn a diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o hyn.”