O ystyried bod mwy na 10% o’r holl apwyntiadau claf allanol yn y DU yn ymwneud ag Offthalmoleg, roedd gwasanaethau llygaid yn ein hysbytai eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw hyd yn oed cyn i COVID-19 daro.
Mae’r galw wedi parhau i gynyddu ers hynny, oherwydd poblogaeth sy’n tyfu, technoleg newydd i roi diagnosis o gyflyrau’n gynt a thriniaethau gwell i drin cyflyrau nad oedd modd eu trin o’r blaen ac a fyddai wedi arwain at ddallineb.
I helpu i ateb y galw hwn, mae Orthoptyddion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu cymhwyster i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd, sef Tystysgrif Lefel 3 Agored Cymru Hanfodion Offthalmoleg (Cymru), sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru.
Hwn yw’r cymhwyster cyntaf o'i fath yn y DU ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a thechnegwyr, a’i nod yw darparu hyfforddiant offthalmig safonedig clinigol i alluogi staff i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Esboniodd Karen Phillips, Pennaeth Gwasanaethau Orthoptig ac Optometreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae mwy na 40% o staff y GIG yn Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd, ac rydym yn gwybod eu bod yn chwarae rhan bwysig yng ngofal ein cleifion."
"Fodd bynnag, beth oedd ar goll oedd rhaglen hyfforddi a chymhwyster ffurfiol iddyn nhw, fel y gallan nhw chwarae rhan fwy effeithiol yn ein clinigau offthalmoleg."
"Yn Ysbyty Tywysoges Cymru rydym wedi bod yn cynnal yr hyfforddiant hwn yn anffurfiol ers bron i 20 mlynedd, ond gwelais i fod angen rhaglen genedlaethol. Mae'r cymhwyster newydd yn darparu hyfforddiant offthalmoleg ar lefel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, fel bod staff yn glinigwyr mwy hyderus. Mae cymhwyster trosglwyddadwy gyda nhw hefyd, ac maen nhw’n gallu helpu i ddarparu gwasanaeth offthalmoleg darbodus sy'n gweithio o dan oruchwyliaeth staff offthalmoleg cymwys.
Gweithiodd Karen, ynghyd â'i chydweithiwr Caroline Morris, ochr yn ochr â’r RNIB, y Coleg Nyrsio Brenhinol ac AaGIC i ddatblygu'r cymhwyster, sydd wedi'i achredu gan Agored Cymru.
Bellach, mae'r rhai sy'n gweithio mewn rôl addas mewn unrhyw sefydliad yn gallu defnyddio'r pecyn hyfforddi hwn.
"Er ei fod wedi'i lunio'n wreiddiol fel hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, sylweddolon ni yn gyflym fod y rhaglen hon hefyd yn werthfawr i Nyrsys Cyffredinol Cofrestredig sy'n mynd i Offthalmoleg, gan ganiatáu iddynt gael y wybodaeth gefndirol i ddatblygu ymhellach tuag at hyfforddiant ôl-raddedig os oes angen," meddai Karen.