Heddiw, cyhoeddodd Comisiwn Bevan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, lansiad ei ail raglen "Mabwysiadu, Lledaenu ac Ymgorffori". Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen gychwynnol a dreialwyd yn 2020, mae'r fenter wedi'i chynllunio i gymryd arloesiadau gofal iechyd profedig a ddatblygwyd yn lleol a'u cyflwyno mewn modd systematig ledled GIG Cymru. Nod y rhaglen hon yw trawsnewid gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio, lleihau rhestrau aros yn sylweddol, gwella canlyniadau cleifion, a darparu gwell gwerth ledled Cymru.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Comisiwn Bevan wedi cefnogi sawl prosiect arloesol mewn Byrddau Iechyd unigol. Ar ôl gwaith craffu ac asesu trylwyr, dewiswyd saith prosiect Esiamplwyr am eu llwyddiant amlwg wrth wella ansawdd gofal, effeithlonrwydd a phrofiad cleifion, gan eu gwneud yn ddewisiadau delfrydol i'w mabwysiadu ar lefel ehangach.
Mae'r mentrau hyn yn cwmpasu ystod amrywiol o anghenion clinigol, o sefydlu gwasanaethau Gofal Amdriniaethol arbenigol i Bobl Hŷn sy'n Cael Llawdriniaeth (POPS), gwella sut mae symud ar hyd y llwybr radioleg er mwyn cyflymu diagnosteg, i wasanaethau gynaecoleg cymunedol gwell sy'n dod â gofal yn agosach at adref. Mae pob prosiect eisoes wedi darparu manteision diriaethol, megis amserlenni diagnostig wedi'u hoptimeiddio, rhestrau aros llai, arbedion arian sylweddol, a gwell capasiti yn y gwasanaeth iechyd.
Mae'r rhaglen "Mabwysiadu, Lledaenu ac Ymgorffori" yn ymateb uniongyrchol ac ymarferol i Strategaeth Arloesi Cymru Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Chwefror 2023, sy'n galw am drosi syniadau arloesol yn welliannau effeithiol ar draws y system. Mae'r fenter hon yn ymgorffori'r weledigaeth honno drwy feithrin diwylliant lle mae atebion lleol llwyddiannus yn dod yn arferion safonol ledled Cymru.
Yn hanfodol, mae'r rhaglen yn cyd-fynd yn gryf â'r pum blaenoriaeth "newid" allweddol ar gyfer y gwasanaeth iechyd a bydd yn cyfrannu'n weithredol atynt, fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ac a ailadroddwyd yn y weledigaeth ar gyfer dyfodol GIG Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles (yn ei araith i Gonffederasiwn y GIG ar 8 Ebrill 2025).
Bydd menter Comisiwn Bevan yn cefnogi'r blaenoriaethau hyn fel a ganlyn:
Meddai Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan: "Am rhy hir, mae arloesiadau gwych a ddatblygwyd yn lleol wedi parhau i fod yn bocedi ynysig o ragoriaeth. Mae ein rhaglen 'Mabwysiadu, Lledaenu ac Ymgorffori' yn ymwneud â newid hynny drwy gymryd yr hyn sy'n gweithio orau mewn modd systematig a'i wneud ar gael i bawb yng Nghymru. Rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol ddofn y mae'r prosiectau hyn yn ei chael ar gleifion, staff ac adnoddau'r GIG. Nawr, mae'n bryd sicrhau bod y buddion hyn yn cael eu gwireddu ledled y wlad. Mae hyn yn ymwneud â darparu gofal iechyd mwy darbodus sy'n seiliedig ar werth, ac sy'n gynaliadwy ac yn deg."
Bydd Comisiwn Bevan nawr yn gweithio'n agos gyda'r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru a thîm Gofal Cynlluniedig Gweithrediaeth y GIG i gefnogi'r gwaith o weithredu'r prosiectau Esiamplwyr hyn. Gan dynnu ar wyddor fabwysiadu ryngwladol, bydd y rhaglen yn darparu methodoleg a fframwaith cadarn i helpu i ymgorffori'r arloesiadau hyn yn effeithiol, gan feithrin diwylliant cynaliadwy o wella sydd o fudd i'r holl gleifion a staff ledled Cymru.
Ynglŷn â Chomisiwn Bevan
Comisiwn Bevan yw melin drafod annibynnol fwyaf blaenllaw Cymru ym maes iechyd a gofal. Mae'n dwyn ynghyd grŵp o arbenigwyr rhyngwladol o fri i ddarparu cyngor annibynnol, awdurdodol i weinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr ledled Cymru i helpu i wella iechyd a gofal iechyd, yn seiliedig ar egwyddorion sylfaenol y GIG.
02/07/2025