Mae’r Gwasanaeth Nyrsio Arbenigol ar gyfer Clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ehangu i gynnal clinigau yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar er mwyn ceisio darparu cymorth yn agosach i gartrefi cleifion.
Yn rhan o'r gwasanaeth mae tîm o nyrsys arbenigol, ac maen nhw'n rhoi cymorth i gleifion sydd wedi cael diagnosis o wahanol anhwylderau tebyg i rai Clefyd Parkinson, gan gynnwys Clefyd Parkinson a Dementia Cyrff Lewy. Bydd y nyrsys yn asesu ac yn cynnal apwyntiad gyda chleifion sydd wedi cael eu cyfeirio gan feddygon teulu, ymgynghorwyr a gweithwyr gofal proffesiynol eraill sy’n gysylltiedig â’r gofal. Enghraifft o’r rhain yw ffisiotherapyddion, a bydd cleifion yn gweithio'n agos gyda nhw’n ddiweddarach.
Byddan nhw’n rhoi cyngor a chymorth i gleifion, eu teulu a'u gofalwyr, a byddan nhw’n cyfeirio cleifion at weithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd, pan fydd hynny'n briodol, i gael rhagor o gymorth.
Yn rhan o'r gwasanaeth hwn, cyn COVID-19, roedd cleifion yn arfer mynd i glinig oedd yn cael ei gynnig bob wythnos yn Ysbyty Dewi Sant ym Mhontypridd. Yn ystod y cyfyngiadau, cafodd gwasanaeth lles dros y ffôn ei sefydlu a chysylltwyd â thua 80% o'r holl gleifion. Er bod cleifion a'u gofalwyr yn gwerthfawrogi hyn, erbyn hyn maen nhw’n dychwelyd yn raddol i’r clinigau, ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu ail glinig wythnosol yn Ysbyty Cwm Rhondda yn Llwynypia er mwyn gweld pobl wyneb yn wyneb yn gyflymach.
Yn ogystal â hynny, mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cynnal clinigau bob mis ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie ym Merthyr Tudful ac yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar cyn diwedd eleni.
Roedd y tîm yn bwriadu dod â gwasanaethau’n agosach at gleifion a'u gofalwyr cyn y pandemig. Dyma Sharon Jones, un o Nyrsys Clefyd Parkinson y tîm, yn egluro:
“Roedd ein cleifion a’u gofalwyr yn gallu teimlo’n ynysig iawn, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau llymaf, felly roedden nhw wir yn gwerthfawrogi’r galwadau,” meddai hi.
“Erbyn hyn, maen nhw'n falch iawn o allu cael ymweliadau â’u cartref a dychwelyd i’r clinigau i'n gweld ni wyneb yn wyneb. Rydyn ni'n dal i gyfyngu ar y niferoedd ac yn sicrhau pellter cymdeithasol er mwyn cadw pawb yn ddiogel, ac rydyn ni am gynnig gwasanaethau yn
agosach i gartrefi pobl hefyd. Rydyn ni eisoes wedi agor ein hail glinig wythnosol yn Ysbyty Cwm Rhondda er mwyn helpu i ateb y galw, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at agor clinigau misol ym Merthyr Tudful ac yn Aberpennar cyn diwedd eleni."