Bob dydd ar draws ein bwrdd iechyd, mae nyrsys clinigol arbenigol canser (CNS) yn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydaui bobl sy'n byw gyda chanser.
Ar Ddydd Cenedlaethol y Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser Canser (CNS) (16 Mawrth 2026), rydym yn dathlu ymroddiad, arbenigedd a charedigrwydd ein timau CNS – y bobl sy'n tywys cleifion trwy rai o'u hamseroedd mwyaf anodd.
O gydlynu gofal personol i ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol, mae Nyrsys Clinigol Arbenigol Canser yn ffynhonnell gyson o wybodaeth ac yn tawelu meddwl cleifion.
Heddiw rydym yn rhannu straeon gan ein cydweithwyr CNS anhygoel a'r effaith maen nhw'n ei gwneud ar draws ein cymunedau yn CTM.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ymuno â'n tîm, cadwch lygad ar ein swyddi nyrsio a bydwreigiaeth diweddaraf ar ein gwefan swyddi.
Cwrdd â Natalie
Fel Nyrs Glinigol Arbenigol Canser yr Ysgyfaint, fy rôl yw cefnogi cleifion a'u teuluoedd drwy gydol eu taith canser yr ysgyfaint.
O’r adeg maen nhw’n cael eu diagnosis, rwy'n helpu i esbonio gwybodaeth am eu diagnosis, ymchwiliadau a thriniaethau, ateb cwestiynau, a sicrhau bod cleifion yn deall beth i'w ddisgwyl. Rydw i hefyd yn helpu gydag unrhyw gefnogaeth ymarferol neu gymdeithasol y gall claf ei angen fel atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol, cyngor budd-daliadau, a gwasanaethau cefnogaeth emosiynol.
Rydw i’n gweithio’n agos gyda meddygon a gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel rhan o’r tîm amlddisgyblaeth i sicrhau bod pob claf yn derbyn gofal cydgysylltiedig ac unigol iddyn nhw. Rydw i hefyd yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt, felly mae cleifion a'u teuluoedd yn gwybod pwy y gallan nhw gysylltu ag e am gyngor, cysur, neu gefnogaeth.
Rwy'n rhedeg clinigau dan arweiniad nyrsys ar gyfer cleifion ar ôl llawdriniaeth a radiotherapi, lle rwy'n gwirio ar eu gwella, yn helpu i reoli sgil effeithiau, ac yn siarad am unrhyw bryderon sydd gyda nhw. Rydw i hefyd yn darparu gofal cefnogol, gan helpu cleifion i reoli symptomau a chynnal y ansawdd bywyd gorau posibl.
Y rhan fwyaf gwerthfawr o fy rôl yw…
Cydnabod cleifion a'u cefnogi yn ystod cyfnod anodd iawn yn eu bywydau. Mae'n bwysig i fi bod cleifion yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw, yn eu cefnogi, ac nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain ar eu taith.
Mae helpu cleifion i deimlo'n fwy hyderus am eu gofal, rheoli symptomau, a bod yno i ateb cwestiynau neu gynnig cysur yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae gwybod fy mod wedi helpu rhywun i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi a’i ofalu amdano yn gwneud y rôl hon mor ystyrlon.
Cwrdd â Sarah
Rwy'n nyrs arbenigol canser G.I (Gastro-berfeddol) a phancreatig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rydw i wedi cael y fraint o weithio yn fy nhîm am y saith mlynedd diwethaf.
Mae yna lawer o agweddau pwysig ar fy rôl:
Cwrdd â chleifion newydd cyn gynted â phosibl pan fydd canser yn cael ei amau.
Trefnu unrhyw brofion ychwanegol yn gyflym fel y gall cleifion gael diagnosis a chynllun triniaeth yn gyflym.
Fel gweithiwr allweddol y claf a'r prif bwynt cyswllt, rwy’n ynnig cymorth rheolaidd.
Siarad ar ran y claf mewn cyfarfodydd tîm aml-ddisgyblaethol i helpu i ddewis y cynllun gofal gorau.
Gwirio a rheoli symptomau.
Rhoi cyngor a chefnogaeth o ran maeth.
Bod yn wyneb gofalus, cydymdeimladol a chyfeillgar i helpu i wneud taith canser y claf ychydig yn haws, a darparu gofal o ansawdd uchel, wedi'i gydgysylltu, canolog i'r person.
Y rhan fwyaf gwerth chweil o fod yn nyrs arbenigol canser yw…
Gallu gwneud gwahaniaeth i brofiadau cleifion a'u teuluoedd ar eu hadeg mwyaf bregus. Mae byw gyda diagnosis canser ac ar ôl hynny yn heriol ac mae pobl yn fregus. Mae'n hanfodol bod cleifion a theuluoedd yn cael eu cefnogi ar bob pwynt o'r llwybr canser ac rwy'n credu, fel tîm, ein bod yn cyflawni hyn.
Cwrdd â Lauren
Rwy'n nyrs arbenigol ganser ar gyfer rhan uchaf y system gastroberfeddol yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Rwy'n cefnogi cleifion a'u teuluoedd drwy gydol eu taith canser, gan weithredu fel eu prif bwynt cyswllt a chynnig cefnogaeth glinigol ac emosiynol.
Rwy'n gofalu am fy nghrŵp fy hun o gleifion a sicrhau eu bod yn derbyn y gofal gorau a'r gofal mwyaf diweddar i'w helpu i deimlo'n well a gwneud yn dda.
Y rhan fwyaf gwerthfawr a breintiedig o fod yn Nyrs Glinigol Arbenigol yw…
Bod yn arweinydd ymddiriededig yn ystod y cyfnodau mwyaf agored a heriol ym mywydau ein cleifion a bod yn rhan o'u taith a gallu eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.
Mae'n foddhaol meddu ar y gallu i wneud effaith gadarnhaol ar fywydau ein cleifion.
Dewch i gwrdd ag Anna
Fy rôl yw Nyrs Arbenigol Canser Rhan Uchaf y System Gastroberfeddol a Chanser Pancreatig yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
Rwy'n cefnogi pobl sydd wedi cael eu diagnosis o ganser yn rhan uchaf y system gastroberfeddol neu ganser pancreatig. Mae hyn yn cynnwys cadw mewn cysylltiad, ateb cwestiynau a chymorth i gleifion fel eu bod yn deall beth i'w ddisgwyl.
Rwy'n gweithio'n agos gyda'r tîm ehangach i sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu'n dda, yn dilyn canllawiau cenedlaethol, ac yn digwydd mor esmwyth ac yn gyflym â phosib.
Dewch i gwrdd â Donna
Mae CNS y colon a’r rhefr, Donna, yn siarad am ei rôl o fewn CTM a beth mae hi'n ei mwynhau fwyaf yn y fideo hwn.
Mae’r nyrsys hyn yn gweithio'n agos gyda'u timau i sicrhau bod pob claf yn derbyn gofal diogel, caredig a chydlynol.
Roedd Donna hefyd wedi dweud: "Mae cael Alison, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, wrth fy ochr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gofal rydym yn gallu ei ddarparu." Yn ei rôl, hi yw'r wyneb cysurus cyntaf y mae ein cleifion yn ei weld yn aml, ac mae ei thosturi yn gosod y naws ar gyfer popeth sy'n dilyn.
Cwrdd â Rebecca
Mae'r Uwch-ymarferydd Nyrsio ar gyfer Brysbennu y Colon a’r Rhefr, Rebecca, yn siarad am ei rôl o fewn CTM a'r rhan fwyaf gwerthfawr o'i swydd yn y fideo hwn.
Cwrdd â'n cydweithwyr yng Nghanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach – Heather, Martine, Shinice, Kath, a Sian
Dywedon nhw: Mae gennym y fraint o gefnogi cleifion a'u teuluoedd trwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd yn eu bywydau. O'r eiliad mae diagnosis yn cael ei roi, trwy gydol y driniaeth a thu hwnt, rydym yma i gynnig cyngor, ateb cwestiynau, darparu sicrwydd a bod yn bresennol pan fo angen hynny fwyaf.
"Y rhan fwyaf gwerthfawr o'n rôl ni yw meithrin perthnasoedd gyda'n cleifion a cherdded gyda nhw ar eu taith." Mae gwybod ein bod wedi gallu eu cefnogi trwy'r cyfnod hwnnw yn gwneud i'r rôl hon fod mor ystyrlon. Rydym yn teimlo'n hynod o falch o wneud y swydd hon a gofalu am y cleifion anhygoel sy'n ymddiried ynom i fod yn rhan o'u taith bob dydd.
Cwrdd â'n Tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol y Colon a'r Rhefr – Helen, Debbie, Hayley a Rose
Mae ein tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol ar gyfer Canser y Colon a'r Rhefr yn cefnogi cleifion trwy bob cam o'u taith canser y colon neu afiechyd colon a’r rhefr.
Mae ein dwy nyrs arbenigol, Helen a Hayley, yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Canser y Colon a'r Rhefr, Debbie, a'r Ysgrifennydd Canser y Colon a'r Rhefr, Rose, i ddarparu gwybodaeth glir, rheoli symptomau a chefnogi cleifion trwy ymchwiliadau a thriniaeth. Maen nhw hefyd yn cynnig gofal stoma arbenigol, yn dysgu ac yn cefnogi cleifion wrth iddyn nhw addasu i fywyd gyda stoma.
Ynghyd â gofal dyddidddd, mae'r tîm yn cwblhau Asesiadau Anghenion Holistaidd ac yn gweithredu fel gweithwyr hanfodol, gan sicrhau cefnogaeth unigol, amserol a charedig o ddiagnosis i oroesi. Maen nhw’n gweithio'n agos gyda'r grŵp cymorth stoma lleol i helpu i gynnal digwyddiadau ddwywaith y flwyddyn ac yn codi arian ar gyfer eu elusen, Bowel Butties, gan ddangos eu hymrwymiad i fynd y tu hwnt i'r gofynion ar gyfer cleifion a theuluoedd.
16/03/2026