Mae diweddariad diweddar i Borth Clinigol Cymru yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael copïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopeg eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r gallu i weld y data hwn, trwy fewngofnodi unwaith yn unig i Borth Clinigol Cymru, yn golygu bod modd i glinigwyr mewn byrddau iechyd eraill gael diweddariadau amser real ar ganlyniadau profion eu cleifion yn eu cofnod iechyd digidol unigol. Cyn hynny, dim ond trwy system hollol wahanol y byddai'r wybodaeth hon wedi bod ar gael.
Meddai’r ymgynghorydd gastroenteroleg, Dai Samuel: “Mae'r diweddariad hwn yn arwyddocaol gan y bydd yn galluogi cydweithwyr gofal sylfaenol a thimau clinigol eraill i weld canlyniadau ar unwaith.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig y tu hwnt i oriau arferol pan fydd angen gwybodaeth yn gyflym, ac er mwyn gwneud yn siŵr fod gohebiaeth yn cyrraedd clinigwyr yn gyflymach. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at welliant sylweddol yn ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i glinigwyr ac yn arwain at barhad gwell o ran gofal.”
Mae Porth Clinigol Cymru ar gael i glinigwyr ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae'n rhannu ac yn dangos gwybodaeth cleifion yn ddigidol o nifer o ffynonellau, hyd yn oed os bydd yr wybodaeth honno wedi ei lledaenu ar draws sefydliadau iechyd. Mae'r Porth yn galluogi clinigwyr i weld cofnodion diweddaraf a chywir cleifion yn y man lle rhoddir gofal, sy’n golygu nad oes angen gofyn am gopïau na, mewn rhai achosion, ailadrodd ymchwiliadau.
Bob mis, mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn gweld miliwn a mwy o ganlyniadau profion trwy Borth Clinigol Cymru. Mae un o bob deg o'r canlyniadau hyn sy’n cael eu gweld yn dod o fwrdd iechyd arall.