Neidio i'r prif gynnwy

Camau Gweithredu Diwydiannol Cynlluniedig Ymwelwyr Iechyd BIP CTM

Efallai eich bod yn ymwybodol bod rhai Ymwelwyr Iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd CTM yn cymryd camau gweithredu diwydiannol dros y 4 wythnos nesaf (23 Chwefror i 20 Mawrth 2026).

Ein blaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn yw diogelwch a hygyrchedd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i chi a'ch teulu ac rydym yn gweithio'n galed i leihau'r effaith a gewch. Fodd bynnag, er mwyn cadw gwasanaethau'n ddiogel a sicrhau y gallwn gefnogi teuluoedd ag anghenion mwy cymhleth a brys, mae'n rhaid i ni gyfyngu ar rai gweithgareddau, gan gynnwys apwyntiadau arferol sydd eisoes wedi'u canslo.

Lle nad yw'r bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi i ganslo apwyntiadau, nodwch fod disgwyl i'r rhain ddigwydd fel yr arfer. Os ydych yn ansicr a yw sesiynau galw heibio grŵp wedi'u canslo, cysylltwch â ni (gweler isod).

Oherwydd y gallai dulliau cysylltu arferol gael eu tarfu, rydym wedi sefydlu un pwynt mynediad y byddem yn gofyn yn garedig i chi ei ddefnyddio fel y brif ffordd i gysylltu â'r gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd. Fe welwch y manylion isod:

Ffôn 01443 803930 neu CTM.SPOAHealthVisiting@wales.nhs.uk

Ein nod yw ymateb i bob ymholiad o fewn dwy awr.

Mae gwefan hefyd a allai fod yn ddefnyddiol i chi: Ymweliadau Iechyd Plant

Cofiwch, os yw'ch babi neu'ch plentyn yn sâl ac rydych chi’n bryderus, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu 111 fel y byddech fel arfer.

Mae'n ddrwg iawn gennym am yr aflonyddwch ac unrhyw bryder a achosir gan y mater hwn. Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn yn parhau i weithio'n galed i leihau graddau’r aflonyddwch.

20/02/2026