Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu bod bron i 12,500 o gleifion ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) wedi gallu cael ymgynghoriadau meddygol o hyd yn ystod pandemig Covid-19, er nad oedden nhw’n gallu ymweld â'r feddygfa neu leoliad gofal iechyd arall yn bersonol.
Dros y 12 mis diwethaf, defnyddiodd cyfanswm o 12,471 o gleifion yn CTMUHB wasanaeth ymgynghori fideo GIG Cymru, sy'n caniatáu i gleifion gysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr, trwy alwad fideo gan ddefnyddio eu cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar. .
Mae'r ffigurau diweddaraf gan TEC (Technology Enabled Care) Cymru wedi datgelu bod dros 139,500 o ymgynghoriadau rhithwir wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws holl fyrddau iechyd Cymru.
Ar y cyd â galluogi gweithwyr meddygol proffesiynol i barhau i gynghori a thrin eu cleifion yn ddiogel trwy gydol y pandemig, mae buddion amgylcheddol i’r gwasanaeth ac mae’n fwy cyfleus o lawer. Mae cleifion wedi osgoi teithio cyfanswm o 558,118 o filltiroedd ac wedi osgoi teithio am gyfanswm o 12,350 awr trwy gael ymgynghoriad ar lein, ac mae 163,977kg o garbon deuocsid wedi eu harbed hefyd oherwydd bod dim angen i gleifion deithio i apwyntiadau.
Dywedodd Dr Alka Ahuja, Arweinydd Clinigol Ymgynghoriadau Fideo yn TEC Cymru: “Mae ymgynghori ar fideo wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac mae wedi sicrhau bod y GIG wedi gallu parhau i roi gofal diogel ac amserol yn ystod y pandemig.
“Mae adborth gan gleifion a chlinigwyr yn dangos ei fod yn gyfleus, ei fod yn arbed arian ac amser, a’i fod yn arbed cleifion rhag gorfod teithio. Mae ymgynghori fideo yma i aros a bydd yn un o'r ffyrdd y bydd pobl yn parhau i dderbyn gofal iechyd nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol hefyd. ”
Dywedodd Gareth Robinson, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r ffordd mae ein cleifion wedi defnyddio gwasanaethau’r GIG wedi newid yn fawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ond diolch i waith caled pawb a’u parodrwydd i addasu i dechnoleg ar lein, rydyn ni wedi gallu gwneud yn siŵr bod cleifion o hyd yn cael y gofal iechyd a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
“Mae ymgynghoriadau fideo fel arfer yn cael eu cynnig i gleifion pan fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol eisiau mwy o wybodaeth nag y gall galwad ffôn ei chynnig.
“Hyd yn oed i’r rhai sydd ddim yn gyffyrddus yn defnyddio technoleg, mae ymgynghoriadau fideo yn ddiogel iawn, a gall cleifion weld eu meddyg, nyrs, optegydd neu eu fferyllydd trwy eu ffôn, eu llechen neu eu cyfrifiadur heb angen lawrlwytho na gosod dim byd arnyn nhw.
Mae adborth cleifion am y gwasanaeth ymgynghoriadau ar lein wedi bod yn galonogol, ac mae data am Gymru gyfan yn dangos bod 92% o’r holl gleifion sydd wedi ei ddefnyddio yn credu ei fod yn ‘rhagorol’, ‘da iawn’ neu ‘da’, a bod 91% yn dweud y bydden nhw’n defnyddio’r gwasanaeth eto.
Cyflymodd Llywodraeth Cymru y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth ymgynghoriadau fideo i GIG Cymru trwy gydol 2020, er mwyn helpu’r gwasanaeth iechyd i ddelio â COVID-19. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth ar gael yn eang ar ôl i’r pandemig ddod i ben, fel bod modd i gleifion gael gofal iechyd mewn modd cyfleus ac amserol.
Mae ymgynghoriadau fideo wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn cartrefi gofal ledled rhanbarth BIP CTM, lle mae system ar lein wrthi’n cael ei dreialu fel bod modd i breswylwyr gael y gofal iechyd sydd ei angen arnyn nhw trwy lechen electronig.
Mae Clare Flesher, Ymarferydd Nyrsio Cymunedol o Aberdâr, wedi bod yn defnyddio ap Attend Anywhere i gynnal ymgynghoriadau ar lein gyda meddygon teulu mewn cartrefi gofal i’r henoed ledled y rhanbarth.
“Y peth gwych am Attend Anywhere bod modd i fi weithio’n agos gyda’r meddygon teulu i wneud penderfyniadau pwysig am ofal preswylwyr, heb orfod trefnu ymgynghoriad wyneb yn wyneb” meddai Clare. “O’r blaen, os oedden gyda claf ac os oedd angen i ni gael barn meddyg teulu, bydden ni wedi gorfod ffonio’r feddygfa ac aros hyd nes bod meddyg teulu ar gael.Byddai’r meddyg wedi gorfod teithio i weld y claf wedyn, a bydden ni wedi gorfod mynd i weld y claf eto yn nes ymlaen yn y diwrnod, i newid y rhwymyn er enghraifft.
“Gyda’r system newydd, gallwn ni gysylltu â’r feddygfa trwy’r ap a bydd ein galwadau yn cael eu blaenoriaethu fel bod y claf yn cael ei weld yn llawer cynt. Mae’n arbed cymaint o amser, ac mae’r adborth wedi bod yn wych.”
Dywedodd Dr Owen Thomas, meddyg teulu yn y Ganolfan Iechyd yn Aberdâr, fod hyn yn enghraifft wych o sut mae’r GIG wedi addasu er mwyn helpu pobl i gael gofal iechyd yn y ffordd fwyaf effeithiol.
“Un o brif heriau’r GIG, ar wahân i’r heriau amlwg mae’n eu hwynebu oherwydd pandemig COVID-19, yw bod cleifion yn trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu yn aml er nad yw eu cyflwr yn golygu bod angen gofal gan feddyg teulu o gwbl. Trwy barhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ar lein yn y dyfodol, gallwn ni leihau’r nifer o apwyntiadau diangen a sicrhau y gall cleifion gael eu gweld yn y ffordd iawn.”