Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn Ymwelydd Cyfrifol

Rydym yn dechrau gweld mwy o salwch, fel 'ffliw, annwyd, ac anhwylderau bol yn ein cymunedau ac mewn ysbytai. Dyma beth allwch chi ei wneud i helpu'r GIG i gadw anhwylderau i ffwrdd.

Peidiwch ag ymweld â'r ysbyty os oes gennych annwyd, 'ffliw, anhwylder bol, neu feirws arall y gellid ei drosglwyddo i eraill.

Ac os ydych wedi cael gwybod bod y ward rydych chi'n ymweld â hi 'ar gau', cadwch draw os gwelwch yn dda.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw i'n cleifion sy'n aros yn yr ysbyty dderbyn ymwelwyr; gall eu helpu i deimlo'n gysylltiedig â theulu a ffrindiau, cadw'r corff a'r meddwl yn egnïol, a gall helpu gwella. Os ydych yn un o nifer o ymwelwyr ag un claf, gallwch helpu drwy gytuno gyda'ch gilydd i leihau nifer yr ymwelwyr ar unrhyw un adeg.

Drwy fod yn ymwelydd cyfrifol byddwch yn helpu i gadw eich anwylyd yn ddiogel tra bydd yn yr ysbyty, a byddwch yn osgoi lledaenu salwch i gleifion eraill. Cofiwch: gall annwyd neu anhwylder bol fod yn anghyfleus i chi, ond gallai fod yn llawer mwy difrifol i gleifion sy'n sâl neu'n agored i niwed.

Mae bod yn ymwelydd cyfrifol yn golygu y byddwch hefyd yn helpu i atal staff y GIG rhag mynd yn sâl, a gallwch helpu i sicrhau bod ein staff yn ffit, yn iach ac yn gallu darparu gofal a thriniaeth i chi a'ch anwyliaid.

Ewch i gael eich brechu. Os cewch gynnig brechiad rhag 'y ffliw, COVID, neu salwch arall, cymerwch ef! Cael eich brechu yw'r peth gorau y gallwch ei wneud i gadw'ch hun yn iach y gaeaf hwn a bydd yn eich helpu i atal rhag lledaenu salwch i aelodau'r teulu, cydweithwyr gwaith ac eraill.

Os ydych yn sâl ac os hoffech gyngor ar drin eich symptomau gartref, defnyddiwch y gwiriwr symptomau yn GIG 111 Cymru - Gwiriwch eich Symptomau.

26/09/2024